|
|
Ysgrifennu dogfennau i'w cyfieithu
|
|
Os yw dogfen wedi ei hysgrifennu’n dda mae’n haws ei chyfieithu’n
dda. Felly dyma ychydig o ganllawiau i’w dilyn wrth ysgrifennu dogfen
a fydd yn cael ei chyfieithu, er mwyn sicrhau cyfieithiad a fydd cystal
â’r ddogfen wreiddiol.
- Defnyddiwch iaith syml beth bynnag fo’r iaith
- Peidiwch â chynnwys mwy nag un syniad mewn un frawddeg.
- Defnyddiwch gymalau safonol.
- Lluniwch restr o’r holl dalfyriadau a thermau technegol ar
gyfer y cyfieithwyr.
- Peidiwch â newid amser y ferf ddim mwy nag sydd raid a cheisiwch
osgoi’r cyflwr goddefol.
- Defnyddiwch arddodiaid (am, ar, at, dan ayb) mewn modd clir.
- Dylech osgoi hiwmor a pheidio â cheisio bod yn ysgafn. Nid
yw’n hawdd cyfieithu hiwmor ac nid yw’r hyn sydd yn ddoniol
yn eich golwg chi yn ddoniol i rywun arall, a gallai hyd yn oed fod
yn dramgwyddus i rywun o ddiwylliant arall.
- Peidiwch â defnyddio idiomau, bratiaith na delweddau o fyd
chwaraeon am yr un rhesymau.
- Defnyddiwch swigod siarad (‘callout’) ar luniau neu ddeiagramau
yn hytrach na thestun wedi ei osod yn y graffigwaith .
- Defnyddiwch offer trefnu megis graffigwaith, rhestrau wedi eu rhifo
neu wedi eu marcio fel pwyntiau bwled, gan y bydd y rheini’n help
i’r darllenwyr yn ogystal ag i’r cyfieithydd. Sicrhewch
eu bod yn ddealladwy ac yn dderbyniol yn y diwylliant targed.
Bydd y cynnwys yn newid fel y bydd yr amgylchiadau’n newid. Ceisiwch
ragweld y newidiadau hyn cyn belled ag y bo modd. Medrwch, felly, greu
darnau o destun y gellir eu defnyddio mewn amgylchiadau gwahanol yn y
dyfodol. Bydd hyn yn arbed amser a chostau cyfieithu yn y dyfodol pan
fydd y darnau’n cael eu defnyddio eto.
Cyflwynwch y gwaith i’r cyfieithydd ar ffurf electronig os oes modd.
Gellir rhoi’r testun wedyn mewn meddalwedd cyhoeddi. Trwy wneud
hyn bydd y graffigwaith a’r fformatio’n cael eu diogelu a
bydd hynny’n arbed amser ac arian. Dylai meddalwedd cyhoeddi eich
cwmni weithio’n dda gyda’r holl ieithoedd sydd yn defnyddio’r
wyddor Ladinaidd, ond cofiwch y gallai system weithredu, meddalwedd neu
becyn ffontiau gwahanol i’r hyn sydd ar eich prosesydd geiriau arferol
fod yn angenrheidiol ar gyfer rhai ieithoedd megis y Tsieinëeg, Arabeg
neu’r Hebraeg gan eu bod yn cael eu darllen o’r chwith i’r
dde.
Dylai’r tîm cyfieithu gynnwys y canlynol:
- Chi, y cleient
- Y cyfieithydd
- Y golygydd
- Y dylunydd graffeg
- Yr argraffydd.
Rhaid cadw anghenion proffesiynol pob un mewn cof os am gael gwaith o’r
safon uchaf ar ddiwedd y broses.
Y Broses
Dyma gamau i’w dilyn os am gael y cyfieithiadau mwyaf llwyddiannus
i ieithoedd a diwylliannau eraill:
- Trafodwch bwrpas y ddogfen derfynol gyda’r cyfieithydd a’r
dylunydd.
- Diffiniwch pa derminoleg arbennig a fydd yn rhan o’r eirfa.
- Gofynnwch i’r cyffeithydd nodi terminoleg sydd yn anodd ei
deall neu’n aneglur.
- Dylai’r drafft gael ei baratoi gan siaradwr cynhenid yr iaith
darged, sydd â chymwysterau cyfieithu a gwybodaeth gyfredol am
y diwylliant targed a’r deunydd cynnwys.
- Dylid rhoi’r cyfieithiad drafft i ail siaradwr cynhenid i’w
brawf-ddarllen.
- Yna dylai rheolwr y prosiect drafod unrhyw sylwadau gyda’r
cyfieithydd a’r golygydd ynghyd â gwneud unrhyw newidiadau
angenrheidiol. Yna gellid rhoi’r cyfieithiad i olygydd y cleient
i’w adolygu.
- Bydd y rheolwr prosiect a’r cyfieithydd yn adolygu newidiadau’r
cleient, os bydd rhai, ac ar ôl trafodaeth gellir cynnwys y newidiadau
yn y ddogfen.
- Rhoddir y testun a gyfieithwyd yn y rhaglen gyhoeddi ddewisol.
- Anfonir proflenni o’r ddogfen at y dylunydd graffeg ar gyfer
y newidiadau terfynol.
- Bydd y ddogfen a gynhyrchwyd yn unol â gofynion dylunio yn
cael ei hanfon at yr argraffwyr.
Mae mwy o wybodaeth a help ar gael ar wefan CILT, y Ganolfan Genedlaethol
ar Ieithoedd lle mae dogfen ar gael ar-lein am ddim – "Translation
Getting It Right" (Saesneg
yn unig)
|