![]() |
![]() |
| Busnes a Chyflogaeth |
|
|
Rydym yn aml yn hoffi cysuro ein hunain â’r syniad fod pawb yn siarad Saesneg, ond hyd yn oed ar-lein, mae’r gred fod yr iaith Saesneg yn tra-arglwyddiaethu ar y We yn perthyn i’r gorffennol. Mor ddiweddar â throad yr unfed ganrif ar hugain, siaradwyr Saesneg iaith gyntaf oedd 40% o holl boblogaeth y byd oedd ar-lein. Erbyn diwedd 2005, roedd y nifer wedi disgyn i 31.2%. O safbwynt marchnata, mae cyfran U.D.A. o ddefnydd y Rhyngrwyd wedi disgyn o 62% yn 1999 i ddim ond 20% erbyn 2006, ac nid yw rhwng 5% a 10% o ddefnyddwyr U.D.A. yn siarad Saesneg fel eu prif iaith. Mae ieithoedd eraill yn cyrraedd cyfraddau twf rhyfeddol: Tsieinëeg (309.6%), Portwgeeg (327.3%) a Rwsieg (664.5%). Mae disgwyl i nifer y siaradwyr Saesneg iaith gyntaf ddisgyn ymhellach fyth. Eisoes, mae Saesneg yn ddull aneffeithiol o gyfathrebu â
thua 88% o boblogaeth y byd. Mae safle amlieithog yn galluogi busnes i ddangos ei fod yn gwmni byd-eang, ac mae’n ennyn parch cleientiaid cyfredol a chleientiaid posibl. Mae ymchwil yn dangos bod cwsmeriaid saith gwaith yn fwy tebyg o brynu pan fyddan nhw’n cael eu cyfarch yn eu hiaith eu hunain. Pa ieithoedd ydw i’n eu dewis? Gall marchnadoedd sydd eisoes yn bodoli roi’r cliw cyntaf ynghylch hyn, ond mae’n rhaid i chi hefyd ystyried marchnadoedd posibl eraill, fel gwledydd sydd â phoblogaethau mawr ar-lein (gellir dod o hyd i boblogaethau ar-lein yma ). Ac fe ddylech chi gofio bob amser am y cyfleoedd a ddaw drwy’r we i dorri i mewn i’r marchnadoedd arbenigol bychan hynny. Mae hyn yn golygu y gallai marchnadoedd eraill fodoli y gallech chi eu targedu drwy gyfieithu a lleoleiddio eich tudalennau gwe. Beth ydw i’n ei gyfieithu? Nid oes angen cyfieithu’r wefan gyfan bob amser, gan fod y ffaith eich bod chi wedi gwneud yr ymdrech i wneud cyflwyniad mewn iaith arall yn dangos ymrwymiad i’r farchnad honno. Ymhellach, efallai na fydd holl rannau eich safle yn berthnasol i farchnadoedd eraill. Sut i gyfieithu • Arian cyfredol Mae’n hanfodol bod eich cwsmer yn teimlo’r un fath am brynu gennych chi ag y byddai ynghylch prynu gan rywun lleol. Newidiadau Fel hyn, gellir gwneud diweddariadau i’r gwreiddiol mor aml ag y dymunwch, a’u hanfon at y cyfieithydd. Rydych chi’n cael budd o wefan sydd wedi’i diweddaru’n gyson, ac mae’r cyfieithydd a datblygwr y wefan yn cael budd o berthynas fusnes barhaus. Am ragor o wybodaeth ynghylch defnyddio cyfieithwyr proffesiynol, cliciwch yma: Defnyddio Cyfieithwyr
a Chyfieithwyr ar y Pryd Proffesiynol
|