Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Busnes a Chyflogaeth
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 

"hyrwyddo gwell sgiliau cenedlaethol mewn iaith a diwylliant ym myd busnes a chyflogaeth"


Mae CILT Cymru’n gweithio gyda CILT, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd, i hyrwyddo gwell medrau cenedlaethol mewn ieithoedd ar gyfer busnes a chyflogaeth. Rydym ni’n gwneud hyn mewn sawl ffordd:

  • Drwy ymchwilio a chodi ymwybyddiaeth o’r manteision cymdeithasol ac economaidd gyda gwneuthurwyr polisïau, rhanddeiliaid, cyflogwyr a chynrychiolwyr cyflogwyr fel y Cyngor Sgiliau Sector;
  • Drwy helpu busnesau i wella eu perfformiad drwy gynllunio cyfathrebiadau rhyngwladol yn dda;
  • Drwy gefnogi darparwyr gwasanaethau ieithoedd (e.e. hyfforddwyr, cyfieithwyr ar y pryd, cyfieithwyr), i ddosbarthu gwasanaethau sy’n cwrdd ag anghenion cyflogwyr;
  • Drwy ddatblygu a chynnal Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer ieithoedd yn y gweithle, ar gyfer cyfieithu ar y pryd ac ar gyfer cyfieithu;
  • Drwy weithio gyda chyrff dyfarnu a chyrff rheoleiddio, adran addysg y D.U. ag asiantau cyllido i wella ansawdd a niferoedd y ddarpariaeth ieithoedd mewn cyd-destunau galwedigaethol;
  • Drwy helpu unigolion i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau iaith yn y gwaith;
  • Drwy gydnabod a rhannu arfer da yn yr holl feysydd hyn.

Cysylltu cyflogwyr ag addysg

Drwy gysylltu ysgol neu goleg a chyflogwr lleol gyda dimensiwn rhyngwladol, bwriad y cynllun Pencampwyr Ieithoedd Busnes yw lleihau’r bwlch rhwng cyflogaeth ac addysg a chynorthwyo myfyrwyr i wneud y cysylltiad ar gyfer dyfodol mwy clir.

Mae'r gwaith yn cefnogi amcanion Ieithoedd Sy’n Cyfrif (pdf 616 kb), Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

I ddarganfod mwy, cliciwch ar y cysylltiadau isod.

  • Cyflwyniad - Tipyn o eiriau ar yr achos busnes dros ddysgu ieithoedd a sut gallwch chi weithio gydag ysgolion a cholegau lleol.

  • Archwiliad Sgiliau a Strategaeth Genedlaethol Ieithoedd Tramor Modern - Pa mor dda ydym ni'n gwneud a beth mae Llywodraeth y Cynulliad eisiau i ni wneud am hyn?

  • Ieithoedd ar gyfer Busnes - Na, nid yw pawb yn siarad Saesneg ac mae hynny'n costio arian. Yma, gallwch chi ddod o hyd i gyfres o ddeunyddiau defnyddiol a gyhoeddwyd gan CILT, i'ch helpu chi i weithio gydag ieithoedd a diwylliannau eraill, ynghyd â chyfres eang o Ganllawiau ar Wledydd.

  • Gwefannau Amlieithog - Mae pobl yn 7 gwaith mwy tebygol o brynu os cyfeirir atynt yn iaith eu hunain. Beth mae'r wefan yn ddweud - neu'n peidio â dweud - amdanoch chi?

  • Astudiaethau Achos - Busnes sydd wedi wynebu'r rhwystr iaith ac wedi dod o hyd i ateb.

  • Defnyddio cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol - Er bod gan frawd cariad nai cymydog eich nith TGAU Ffrangeg, nid yw hynny’n golygu y gall e gyfieithu. Mae cyfieithu’n grefft arbennig iawn ac un na ddylech chi’i gadael i amaturiaid”.

  • Sut i ddefnyddio gwasanaethau cyfieithydd proffesiynol? - Sut ydych chi'n gwneud bywyd yn fwy rhwydd i chi a'ch cyfieithydd?

  • Ysgrifennu dogfennau i'w cyfieithu - Nid dim ond mater o ddweud yr hyn rydych chi eisiau ei ddweud yn Saesneg yw e, mae ’na ambell beth arall i’w ystyried os ydych chi eisiau’r gorau gan y swydd.

  • Pobl broffesiynol - tudalennau i'r rhai hynny sydd ym myd busnes, p'un ai'n gyfieithwyr, cyfieithwyr ar y pryd, tiwtoriaid neu gynghorwyr.

  • Dolenni - Llawer o safleoedd diddorol a defnyddiol i bobl broffesiynol a'r gweddill ohonom ni.

Diweddarwyd ar: Mehefin 10 2009
E-bost: llinos.jones@ciltcymru.org.uk