![]() |
![]() |
| Busnes a Chyflogaeth |
|
|
Mae darllen am brofiadau cwmnïau eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg i’ch un chi, neu mae mynd ati hyd yn oed i gael mwy o wybodaeth ynglyn â sut i gynyddu’ch busnes tramor yn ffordd wych o adnabod eich anghenion cyfathrebu rhyngwladol a dechrau mynd i’r afael â’r rhwystrau ieithyddol a diwylliannol sydd ar hyn o bryd yn eich atal rhag amlhau eich potensial i’r eithaf. Os ydych chi’n teimlo y gallai’ch cwmni fod yn esiampl dda i ysbrydoli eraill, cysylltwch â ni er mwyn inni fedru’ch cynnwys. *Noder mai yn Saesneg yn unig mae’r astudiaethau hyn* Oakridge Steel, Y Coed Duon - Gweler sut mae’r cwmni yma wedi troi £50 i mewn i £200,000 gyda chymorth Adolygiad Cyfathrebu Allforio. SRK
Consulting (UK) Ltd, Caerdydd – Recriwtio, hyfforddi,
cyfieithu a lleoleiddio gwefannau amlieithog mewn cwmni gwirioneddol fyd-eang.
Cwmni annibynnol o ymgynghorwyr ym meysydd peirianneg a gwyddoniaeth yw
SRK Consulting (UK) Ltd a gafodd ei sefydlu yng Nghaerdydd yn 1988 i ddarparu
gwasanaethau ymgynghori i’r diwydiant glofaol a diwydiannau eraill
sy’n ymwneud ag adnoddau naturiol, yn ogystal â pheirianneg
sifil ac amgylcheddol. Weartech International, Pontarddulais - Sefydlwyd Weartech International yn 2001 i gynhyrchu aloiau dwr-wrthiannol i sawl sector diwydiannol. Erbyn heddiw, mae 90% o'r trosant o dramor. A & S Metallurgical Resources, Sheffield – Mae A&S wedi bod yn darparu nwyddau treuliadwy i ffowndrïau haearn, dur ac alwminiwm yn y DU yn ogystal â rhai dramor. BevEx Ltd, Leicestershire – Cynhyrchydd systemau cludo diod inswleiddiedig ar archeb yw Bevex Ltd. Ymhlith ei gwsmeriaid mae cwmnïau llwyddiannus fel Coca-Cola a McDonalds, ac mae bron i hanner ei fusnes yn deillio o allforio. ClinPhone
PLC, Nottingham – Cofnodi canlyniadau yn Cebuano, Tagalog, a
Telugu Shell Shared Service Centre, Glasgow – Canolfan Wasanaeth Gyfrannol Ariannol Amlieithog sy’n llwyddo ac yn tyfu. The
Whisky Heritage Centre, Caeredin – Roedd strategaeth iaith yn
sylfaenol i waith y Scotch Whisky Heritage Centre, hyd yn oed cyn iddi
agor ym Mai 1988.
|