Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Busnes a Chyflogaeth
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 

Archwiliad Sgiliau a Strategaeth Genedlaethol Ieithoedd Tramor Modern


Cynhaliwyd yr Archwiliad o Alluoedd Medrau Iaith Cymru (pdf 846kb) yn 2002, ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cysylltwyd â’r prif fudd-ddeiliaid er mwyn sefydlu, am y tro cyntaf, cronfa o ddata dechreuol o ran darpariaeth sgiliau iaith a’r gofyn sydd yng Nghymru ym myd cyflogaeth. Cafwyd ymateb i’r arolwg o’r rhai sydd angen y sgiliau gan fwy na 350 o fusnesau sydd â chysylltiadau rhyngwladol. a wirfoddolodd i roi gwybodaeth am eu defnydd o ieithoedd yng nghyd-destun allforio. Mae’r adroddiad llawn am yr archwiliad yn cynnwys hefyd:
  • Astudiaethau achos am gwmnïau.
  • Cyfweliadau gyda’r prif wneuthurwyr penderfyniadau yng Nghymru.
  • Proffil masnach delfrydol ar gyfer defnyddio iaith.

Roedd yr arolwg o’r ddarpariaeth yn cynnwys llawer o gyswllt gyda’r holl lefelau addysgol, o’r meithrin i addysg oedolion, yn ogystal ag ymgynghoriadau gydag asiantaethau cyfryngu fel Gyrfa Cymru, Siambrau Masnach ac Asiantaethau Recriwtio.

Cafwyd gwybodaeth bwysig gan ddarparwyr masnachol gwasanaethau iaith am y galw am wasanaethau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, hyfforddi a chyfarwyddo diwylliannol yng Nghymru. Roedd sefydliadau eraill a gyfrannodd yn cynnwys:

  • ELWa
  • ACCAC
  • Masnach Cymru Rhyngwladol
  • Asiantaeth Datblygu Cymru
  • CILT Cymru

Nawr, mae ELWa ag ACCAC ill dau yn rhan o Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Masnach Cymru Rhyngwladol ag Asiantaeth Datblygu Wesl ill dau yn rhan o Busnes Rhyngwladol Cymru, sydd yn rhan o Adran Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth y Cynulliad.

Ym mis Mai 2002, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei Strategaeth Genedlaethol ar Ieithoedd Tramor Modern, Ieithoedd Sy’n Cyfrif. Yn y ddogfen ceir manylion am y ffyrdd mae’r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau cynnydd mewn niferoedd a’r ddarpariaeth ar gyfer ieithoedd tramor yng Nghymru. Bydd Rhwydwaith Ieithoedd Cymru yn defnyddio tystiolaeth a gasglwyd yn sgîl yr Archwiliad o Alluoedd Medrau Iaith ac yn chwarae rhan sylweddol yn y dasg o weithredu strategaeth y Cynulliad.

Cysylltu

Diweddarwyd ar: Rhagfyr 2 2008
E-bostio Ni