Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Gwybodaeth
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 
Llun Adnoddau a Gwybodaeth Pwynt bwled   Mae CILT Cymru'n ymfalchio yn ei chanolfan adnoddau sydd yn ei phencadlys yng Nghaerdydd. Mae'r casgliad yn cael ei ddiweddaru'n gyson, ac yn cynnwys gwerslyfrau, casetiau, casetiau fideo a chasgliad bychan o CD Roms. Yn ogystal, mae cyhoeddiadau yn gysylltiedig â ieithoedd ac astudiaethau ieithyddol ar gael yno. Yn y ganolfan gallwch brynu ac edrych ar gyhoeddiadau CILT (er enghraifft y gyfres adnabyddus Pathfinder ar gyfer athrawon) neu bori trwy'r ystod eang o daflenni gwybodaeth.

Gallwch wylio casét fideo mewn awyrgylch cyfforddus wrth fwynhau cwpaned o goffi, neu ddefnyddio'r cyfrifiadur i syrffio ar wefan CILT Cymru. Ac y mae hyn oll yn rhad ac am ddim. Rydym yn cynnal digwyddiadau arbennig ar gyfer athrawon yn y Ganolfan (er enghraifft y Clwb Sbaeneg). Gallwch hefyd gynnal eich cyfarfod adran yno trwy gysylltu â’r Swyddog Gweinyddol.

I'r rhai sy’n byw yng nogledd Cymru, mae gennym ganolfan llai ym Mhrifysgol Bangor (Ysgol Ieithoedd Modern). Bydd y ganolfan hon ar gael ar gyfer cyrsiau Hyfforddiant Mewn Swydd. Ac os yw ymweliad i'r ganolfan hon yn amhosib, mae ffynhonnell ardderchog o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.

Mae gan ein gwefan gysylltiadau â gwefan CILT UK, sy’n eich galluogi i elwa ar doreth o wybodaeth ac adnoddau. Os hoffech gysylltu ag athrawon eraill pam na ddefnyddiwch Fforwm CILT Cymru neu sgwrsio â’ch cyd athrawon? Unwaith eto y mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Mae fforymau e-bost eraill hefyd ar gael drwy CILT DU.

A chofiwch bod y ganolfan adnoddau yn perthyn i chi ...felly defnyddiwch hi! Edrychwn ymlaen at glywed oddiwrthych.

  • Os gwelwch yn dda, cliciwch yma i gael rhestr o'r adnoddau cynradd sydd ar gael yn bresennol yn CILT Cymru.
  • Bydd rhestr o'r adnoddau uwchradd ar gael yn fuan i'w tanlwytho.

Mae prif ganolfan adnoddau CILT Cymru wedi ei lleoli yn :

Cambrian Buildings
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd CF10 5FL

Ffôn : 02920 480137
Ffacs : 02920 480145
E-bost : bethan.enticott@ciltcymru.org.uk

Oriau agor : 9.00 - 5.00 pm Llun -Gwener
(ag eithrio Gwyliau Banc a chyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd).

Diweddarwyd ar: Ebrill 27 2006
E-bost: llinos.jones@ciltcymru.org.uk