|
Newyddion yn Torri – Cyhoeddi Enillwyr Cystadleuaeth
|
|
Pleser o’r mwyaf yw cael cyhoeddi enwau’r enillwyr yng nghystadleuaeth
“Dewch i Adnabod eich Cynorthwy-ydd Ieithoedd Tramor” eleni,
a gynhelir ar y cyd â’r Cyngor Prydeinig – Cymru.
Braf oedd gweld Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg yn cael eu cynrychioli a
chynigion gan ddisgyblion Cyfnodau Allweddol 3 a 4 yn ogystal â
myfyrwyr Lefel AS a Lefel A. Unwaith eto, roedd safon y cynigion yn uchel
dros ben ac roedd penderfyniadau anodd yn wynebu’r beirniaid.

Yr enillwyr yw:
Cyfnod Allweddol 3
Gwobr 1af: Deutschklub Ysgol Dyffryn Aman am eu PowerPoint rhagorol.
2ail Wobr: Blwyddyn 7 Ysgol Uwchradd Glyn Derw am eu gwefan gartwn ryngweithiol
(ac fe allwch ei gwylio trwy glicio yma:
3edd Wobr: Grwp Ffrangeg Blwyddyn 8 Ysgol Gyfun y Barri am eu PowerPoint
a oedd yn llawn dop o wybodaeth.

Cyfnod Allweddol 4
Gwobr 1af: Blwyddyn 10 Ysgol Gyfun Gatholig Bishop Vaughan, a greodd becyn
o adnoddau i’w ddefnyddio gyda disgyblion cyfnod allweddol 3. Roedd
y pecyn yn cynnwys DVD, cyflwyniad PowerPoint, poster gwybodaeth, wal
“Yn eisiau”, sawl cwis a gweithgareddau eraill.
2ail Wobr: Blwyddyn 10 Ysgol Gyfun Dyffryn Taf, a greodd DVD yn ogystal
ag albwm o atgofion a gwybodaeth.
3edd Wobr (cydradd): Ysgol Gyfun St Julian’s, a greodd gyflwyniad
PowerPoint ar ffurf cwis rhyngweithiol, gan orfodi’r beirniaid i
weithio!
3edd Wobr (cydradd): Disgyblion Blwyddyn 11 Ysgol Dyffryn Aman a greodd
DVD ardderchog gydag ymchwiliad yn arddull Mission Impossible i’w
cynorthwy-ydd.

Lefel AS/A
Gwobr 1af: David Hendy o Goleg Crosskeys, a greodd sioe radio a chyflwyniad
PowerPoint am gyffuriau.
2ail Wobr: Jack Westerland o Ysgol Gyfun y Barri, a anfonodd gyflwyniad
PowerPoint atom yn llawn gwybodaeth am chwaeth a safbwyntiau cerddorol
ei gynorthwy-ydd ynghyd â recordiad o’i gyfweliad.
3edd Wobr: Hannah Crowney o Ysgol Gyfun Gatholig Bishop Vaughan a anfonodd
drawsgrifiad a recordiad o’i chyfweliad am yr amgylchedd.

Cyflwynir y gwobrau yn gynnar ym mis Mawrth (dyddiad a lleoliad i’w
cyhoeddi). Yn y cyfamser hoffem estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf i’r
enillwyr a’n diolch i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.
|