| 2.00-4.00 Sesiynau dechreuol, sesiynau
llawn ac iaith darged
Mae sesiynau dechreuol a sesiynau llawn yn ffordd ardderchog o ddenu
a herio disgyblion ac o fonitro’u dysgu. Bydd Kristina a Ciara
yn dangos ambell enghraifft lwyddiannus o sesiynau dechreuol a gweithgareddau
eraill. Mae siarad am sut mae iaith yn gweithio yn angenrheidiol
os yw disgyblion am dyfu’n ddysgwyr annibynnol. Mae hyn yn
ei gwneud hi’n bwysicach fyth cael syniad clir o rôl
yr iaith darged mewn gwersi. Bydd Kristina a Ciara yn dangos sut
y gall datblygu sgiliau meddwl wella statws yr iaith darged ac annog
disgyblion i’w defnyddio â hyder. |