Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Projectau & Mentrau
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 

Ffynhonellau Cyllido


Cronfa Ysgolion Gwell * NEWYDD*: Ebrill 2008-09

Am y tro cyntaf, Blaenoriaeth 1C yng Nghronfa Ysgolion Gwell y flwyddyn nesaf yw:
"Cyflwyno iaith dramor modern yng Nghyfnod Allweddol 2”

O ganlyniad, mae’r maes yma’n gymwys am gefnogaeth grant drwy’r AALl.

Rhagwelir y bydd clystyrau o ysgolion yn gweithio gyda’u hysgolion Uwchradd lleol i gyfoethogi CA2, cefnogi trefniadau Pontio ac uchafu effaith CA3 i’r eithaf.

Bydd gan bob AALl eu trefniadau/cynlluniau eu hunain ar gyfer y maes cymhwyster yma, felly cysylltwch â’ch cynrychiolydd Cronfa Ysgolion Gwell lleol i ddarganfod pa weithgaredd posib sydd wedi ei gynllunio ar gyfer ysgolion o fewn eich awdurdod chi.

Bydd ITM yn CA2 yn parhau i fod yn Faes Blaenoriaeth y Cynulliad am 3 mlynedd:
2008-09
2009-10
2010-11

Bydd CILT Cymru’n cynnal cyrsiau hyfforddi ar gyfer athrawon cynradd/uwchradd/peripatetig, felly cadwch olwg ar y wefan am ddyddiadau a lleoliadau…


Cronfa Ysgolion Gwell 2007-2008
Blaenoriaeth 1A: Pontio

Mae'r Cylchlythyr yma'n darparu arweiniad ar raglen Cronfa Ysgolion Gwell ar gyfer 2007-08 i awdurdodau addysg leol (AALlau) . Mae'n disgrifio'r Meysydd Gweithgaredd a Blaenoriaeth sydd yn gymwys am gefnogaeth grant o fewn y rhaglen, y trefniadau rheoli ar gyfer y rhaglen a'r wybodaeth y dylai AALlau eu darparu. Yn ogystal, mae'n rhoi manylion o'r dosraniadau grant ar gyfer pob AALl a'r trefniadau ar gyfer hawlio a thalu grant.

Mae'r Cyngor Prydeinig yn cynnig ystod eang o gyfleoedd ar gyfer ysgolion ac athrawon unigol:

- Darganfod partneriaid, cefnogi partneriaethau ysgol a chreu projectau ysgol Rhyngwladol mwy

- Am olwg cyffredinol a disgrifiad o raglenni cyfredol gyda'r Cyngor Prydeinig ynghyd â graddfeydd amser ar gyfer ceisiadau ar gyfer y dyfodol mwy

- I ddarllen am gyfleoedd datblygiad proffesiynol mwy

- Cyfleoedd hyfforddi Ewropeaidd Mewnol ar gyfer athrawon mwy


Cyfleoedd cyllido CACC 2008 - 2011
Efallai y bydd athrawon sy'n gweithio mewn ysgolion a gynhelir gan yr AALl yn gymwys am gyllid gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CACC) fel rhan o’u Rhaglen Gyllido Datblygiad Proffesiynol. Os gwelwch yn dda, edrychwch ar Lyfryn Gwybodaeth Rhaglen Gyllido DPP CACC neu cysylltwch â'r Tîm Datblygu Proffesiynol am fwy o wybodaeth:
Ffôn: 02920 550 350 E-bost: cpd@gtcw.org.uk


Elusen genedlaethol yw ContinYou sy’n hyrwyddo dysgu tu allan i’r ysgol a dysgu gydol oes. Mae ei "Extra Time Mini Guides" yn darparu cefnogaeth, cyfarwyddyd, syniadau ac adnoddau i ysgolion ac Awdurdodau Lleol i’w helpu nhw i gynnal ystod o weithgareddau / glybiau all-gyrsiol sy’n seiliedig ar bwnc. Gellir defnyddio’r nifer o syniadau sy’n cael eu cynnwys o fewn y cyfarwyddyd yn ystod amser cwricwlwm ffurfiol hefyd.

Mae’r "Extra Time Mini Guide" newydd ar gyfer Ieithoedd Tramor Modern yn cynnwys syniadau a chyngor i ysgolion sydd eisiau sefydlu clwb iaith neu sydd am gyflwyno blas rhyngwladol i glybiau eraill. Mae’r arweiniad ar gael i’w lawrlwytho o Wefan ContinYou (ewch i’r 3ydd pwynt bwled: Study Support ETC > Resources & case studies > Mini Guides > MFL) neu ewch yn syth i’r pdf.


Oeddech chi'n gwybod fod Cyllid Ewropeaidd  ar gael i'ch galluogi chi i gymryd rhan mewn cyrsiau un i bedair wythnos, mewn gwlad lle siaredir ac yr addysgir yr iaith darged? Ewch ati i ddarganfod a ydych yn gymwys ai peidio.
  • Arian Cyngor Addysg Cyffredinol Cymru (2005-2008) i ysgolion PROJECT a rhai heb fod yn cymryd rhan yn y PROJECT ar gyfer rhannu arferion da mewn ieithoedd tramor modern

    Arian Cyngor Addysg Cyffredinol Cymru (2005-2008) i ysgolion PROJECT a rhai heb fod yn cymryd rhan yn y PROJECT ar gyfer rhannu arferion da mewn ieithoedd tramor modern
    Ysgolion Project presennol – a fyddech yn barod i rannu eich profiadau er mwyn helpu i gyrraedd ysgolion eraill?
    Os am ledaenu’r syniad o gyflwyno ieithoedd yn yr ysgolion Cynradd mor eang ag y bo modd mewn ysgolion heb fod yn rhan o’r project rhaid i ni gael athrawon sydd yn barod i rannu’r profiadau a gawsant yn ystod 3 blynedd ddiwethaf prosiect CA2. Un o brif fanteision projectau datblygiad proffesiynol megis y rhai a ariannir gan raglen CyngACC yw’r cyfle i athrawon rannu eu profiadau ac ‘arferion da’ gydag eraill ac ennyn brwdfrydedd mewn ysgolion eraill i wneud yr un fath. Gall arian y Cyngor eich galluogi i wneud hyn. Cysylltwch â ni yn y cyfeiriad isod os oes gennych ddiddordeb.

    Ysgolion nad ydych yn rhan o’r project a diddordeb mewn ieithoedd tramor modern Cynradd – peidiwch â cheisio gwneud hyn heb gefnogaeth.

    Yn ystod y 3 blynedd diwethaf bu llawer o rwydweithio ardderchog ymysg clystyrau o ysgolion Project. Gallech fanteisio ar eu profiad hyd yma a ffurfio eich clwstwr CHI er mwyn edrych i mewn i’r hyn y gellir ei gyflawni wrth gyflwyno ieithoedd tramor modern yn yr ysgolion cynradd? Gallai fod yn bosibl i chi dderbyn arian CyngACC i helpu i hwyluso’r rhwydweithio. Daw hyn o gyfnodolyn diweddaraf CyngACC (Gorffennaf 2005):

    “Mae’r rhan fwyaf o athrawon ac ysgolion yn teimlo bod ymgymryd â DPP ar eu pennau eu hunain yn araf ac unig ond ceir ysgogaeth a chefnogaeth wrth weithio gydag eraill.

    Mae Rhaglen Datblygiad Proffesiynol y Cyngor yn cynnig arian i athrawon i archwilio’r cyfle i gydweithio trwy ei brojectau Rhwydwaith Proffesiynol.

    Yn ystod y 4 blynedd diwethaf ariannwyd oddeutu 300 o rwydweithiau gydag wyth o athrawon, ar gyfartaledd, ym mhob un.

    Mae’r canlynol yn ofynnol gan rwydwaith er mwyn cael arian:
    - o leiaf 5 o athrawon o 3 ysgol o leiaf
    - athrawon yn cyfarfod yn rheolaidd fel grwp dros gyfnod o amser i weithio ar un agwedd gyffredin ar eu gwaith

    Gall yr arian alluogi’r rhwydwaith i ‘brynu’ arbenigedd i gwrdd â’u hanghenion proffesiynol a thalu am athrawon llanw.

    Mae’r Cyngor yn annog athrawon i fanteisio ar hyn ac i wneud cais, gan fod pob arian na chaiff ei wario’n gorfod mynd yn ôl i’r Cynulliad.

    Cysylltwch â’r tîm Datblygiad Proffesiynol yn uniongyrchol ar: 029 2055 0350
    neu e-bostiwch: cpd@gtcw.org.uk neu dpp@gtcw.org.uk i fynd ar wefan CyngACC

    Rhaid i ni ledaenu’r neges...