Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Projectau & Mentrau
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 

Ffynhonellau Cyllido

Am y tro cyntaf, Blaenoriaeth 1C yng Nghronfa Ysgolion Gwell y flwyddyn nesaf yw:
"Cyflwyno iaith dramor modern yng Nghyfnod Allweddol 2”

O ganlyniad, mae’r maes yma’n gymwys am gefnogaeth grant drwy’r AALl.

Rhagwelir y bydd clystyrau o ysgolion yn gweithio gyda’u hysgolion Uwchradd lleol i gyfoethogi CA2, cefnogi trefniadau Pontio ac uchafu effaith CA3 i’r eithaf.

Bydd gan bob AALl eu trefniadau/cynlluniau eu hunain ar gyfer y maes cymhwyster yma, felly cysylltwch â’ch cynrychiolydd Cronfa Ysgolion Gwell lleol i ddarganfod pa weithgaredd posib sydd wedi ei gynllunio ar gyfer ysgolion o fewn eich awdurdod chi.

Bydd ITM yn CA2 yn parhau i fod yn Faes Blaenoriaeth y Cynulliad am 3 mlynedd:
2008-09
2009-10
2010-11

Bydd CILT Cymru’n cynnal cyrsiau hyfforddi ar gyfer athrawon cynradd/uwchradd/peripatetig, felly cadwch olwg ar y wefan am ddyddiadau a lleoliadau…

Cliciwch YMA am fwy o wybodaeth am y Gronfa Ysgolion Gwell...

Cydnabyddiaeth: Cymerwyd yr wybodaeth swyddogol ganlynol yn uniongyrchol o Weithgaredd 1 Dogfen Cyfarwyddyd 2008-09 Cronfa Ysgolion Gwell Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhif Cylchlythyr : 023/2007 (Medi 2007)

MANYLION CYSWLLT GWEITHGAREDD 1
Blaenoriaethau 1a, 1b ac 1c
Tegwen Harrison
Yr Is-adran Perfformiad a Gwella
Ffôn: 029 2082 6251

Blaenoriaethau ar gyfer 2008-09:

MAES 1

1A PONTIO EFFEITHIOL
1B GWELLA SGILIAU SYLFAENOL
1C DARPARU IEITHOEDD TRAMOR MODERN YNG NGHYFNOD ALLWEDDOL 2

1C DARPARU IEITHOEDD TRAMOR MODERN YNG NGHYFNOD ALLWEDDOL 2

Amcan

Rhoi’r cyfle i ysgolion cynradd, gan weithio mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd, ddarparu ieithoedd tramor modern yng Nghyfnod Allweddol 2. Fel y nodir yn y strategaeth genedlaethol ar gyfer dysgu iaith Ieithoedd sy’n Cyfrif mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i wella’r cyfleoedd ar gyfer dysgu ieithoedd tramor
modern. I fynd i’r afael â hyn, mae CILT Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn treialu’r ddarpariaeth o ieithoedd tramor modern yng Nghyfnod Allweddol 2 gyda 118 o ysgolion cynradd ynghyd â’r 18 o ysgolion uwchradd cysylltiedig ledled Cymru ers 2003.

Daeth gwerthusiad annibynnol diweddar o’r rhaglenni peilot i’r casgliad:

- bod brwdfrydedd mawr dros ddysgu iaith ym Mlwyddyn 6 gyda disgyblion yn mwynhau’r profiad a rhieni yn croesawu’r cyfle i’w plant ddechrau dysgu iaith dramor fodern;
- bod ymagwedd yn seiliedig ar siarad a gwrando yn sail gadarn i ddenu diddordeb pobl ifanc a darparu’r sylfeini ar gyfer dysgu a dilyniant pellach wrth fynd ymlaen i addysg uwchradd;
- yn seiliedig ar ganllawiau CILT Cymru o isafswm o 19 awr o addysgu yn ystod y flwyddyn ysgol, bod athrawon cynradd yn gallu cynnwys addysgu iaith dramor fodern a dechrau creu cysylltiadau â meysydd eraill o ddysgu iaith a phynciau megis daearyddiaeth a hanes;
- i ysgolion uwchradd nodi bod y disgyblion a oedd yn gysylltiedig â’r rhaglen beilot wedi dechrau Blwyddyn 7 gyda brwdfrydedd dros ieithoedd tramor modern a’r wybodaeth a’r sgiliau i wneud cynnydd cyflym i fynd i’r afael â chwricwlwm Cyfnod Allweddol 3.

Er y gallai nifer o ddulliau gweithredu gael eu defnyddio i gyflawni hyn, yr un mwyaf effeithiol oedd cydweithio rhwng clwstwr o ysgolion cynradd yn gweithio gydag ysgol uwchradd bartner. O ganlyniad i hyn, roedd yr ysgolion cynradd yn gallu gwneud y defnydd gorau o arbenigedd ac adnoddau’r ysgolion uwchradd ac roedd yn darparu
sail effeithiol ar gyfer parhad mewn dysgu wrth symud disgyblion ymlaen i Flwyddyn 7.


Ar y sail hon cytunwyd y dylid sicrhau bod adnoddau ar gael yn y Gronfa Ysgolion Gwell i alluogi ysgolion cynradd i ddarparu ieithoedd tramor modern ar sail anstatudol o fis Medi 2008.

Gan ddefnyddio’r gwerthusiad dylai darpariaeth o’r fath:

- fod yn seiliedig ar y fframwaith anstatudol ar gyfer darparu ieithoedd tramor modern yng Nghyfnod Allweddol 2 a ddatblygwyd fel rhan o’r adolygiad diweddar o drefniadau cwricwlwm ac asesu ysgolion;
- cael ei dargedu i ddechrau ym Mlwyddyn 6 er y byddai ysgolion efallai am ystyried cyflwyno darpariaeth o’r fath ar oedran cynharach;
- bod yn seiliedig ar glystyrau o ysgolion cynradd yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgol uwchradd i wneud y defnydd gorau o adnoddau ac arbenigedd a darparu ar gyfer parhad mewn dysgu wrth symud i Flwyddyn 7;
- canolbwyntio ar wella’r trefniadau pontio, gan gyfeirio at y canllawiau anstatudol ‘Croesi Pontydd’ a gynhyrchwyd gan ACCAC yn 2005;
- gwneud y defnydd gorau o TGCh i ategu’r hyn a gyflwynir er enghraifft drwy’r defnydd o rwydweithiau TGCh a fideogynadledda.

Gwariant Cymwys

- Hyfforddiant i athrawon ac aelodau eraill o staff er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno ieithoedd tramor modern yng Nghyfnod Allweddol 2.
- Costau sy’n gysylltiedig â staff o ysgolion partner yn dod ynghyd i adolygu a gwella addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghyfnod Allweddol 2 ac yn y dilyniant i Gyfnod Allweddol 3.
- Datblygu deunydd a gynhyrchir yn lleol i ategu trefniadau pontio gwell ar gyfer ieithoedd tramor modern.
- Cyflog a chynhaliaeth staff, yn cynnwys staff ysgolion uwchradd yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno ieithoedd tramor modern mewn ysgolion cynradd.
- Prynu deunyddiau i’w defnyddio i wella agweddau penodol ar ddysgu ieithoedd tramor modern.
- Gall arian grant gael ei ddefnyddio hefyd i ddarparu hyfforddiant yn erbyn y penawdau hyn ar gyfer staff mewn ysgolion arbennig a staff peripatetig.

Gwybodaeth arall

Gall CILT Cymru roi cyngor ar bob agwedd ar addysgu ieithoedd tramor modern ac yn benodol ar ddarpariaeth yng Nghyfnod Allweddol 2. Argymhellir, felly, bod awdurdodau lleol ac ysgolion yn ymgynghori â CILT Cymru wrth ddatblygu darpariaeth o’r fath. Gall CILT Cymru roi cyngor hefyd ar gyfrifo costau. Er enghraifft, daeth y gwerthusiad o raglenni peilot Cyfnod Allweddol 2 i’r casgliad bod y £1500 a ddarparwyd ar gyfer pob ysgol gynradd (gydag arian cyfatebol oddi wrth yr ysgol, y clwstwr neu’r AALl), a £400 ar gyfer ysgolion uwchradd i dalu gorbenion yn cynnwys cyfarfodydd, yn ddigonol i gyflwyno iaith dramor fodern lle roedd yn cael ei datblygu a’i chyflwyno gydag ysgolion partner. Awgrymir felly y dylid mabwysiadu’r ffigur hwn fel pwynt cyfeirio ar gyfer dyrannu grant i ddarparu ieithoedd tramor modern yng Nghyfnod Allweddol 2.

Gellir cysylltu â CILT Cymru yn y cyfeiriad canlynol: Llawr 1af, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL, 029 2048 0137 neu drwy wefan y Ganolfan yn www.ciltcymu.org.uk. Cysylltwch â’u Hymgynghorwyr Ieithoedd Tramor drwy e-bost: carolyn.goodwin@ciltcymru.org.uk (cyfrwng Saesneg) nia.jones@ciltcymru.org.uk (Cyfrwng Cymraeg)

Y diffiniad o iaith dramor fodern yw’r diffiniad a nodir yn y ddogfen ar
Ieithoedd Tramor Modern yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru,
Cyfnodau Allweddol 2 - 3, sef ‘un neu ragor o ieithoedd gweithredol
swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (Almaeneg, Daneg, Eidaleg, Estoneg,
Ffinneg, Ffrangeg, Groeg Fodern, Hwngareg, Iseldireg, Latfieg, Lithwaneg,
Malteg, Portiwgaleg,Pwyleg, Sbaeneg, Slofaceg, Slofeneg, Swedeg
a Tsieceg) a gall hefyd gynnig unrhyw iaith y mae galw mawr amdani
ac y mae gan yr ysgol yr adnoddau i’w chynnig.

Mae’r cyhoeddiadau canlynol yn berthnasol i weithgareddau cynllunio
o dan y Flaenoriaeth hon:

- Ieithoedd sy’n Cyfrif, y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd
Tramor Modern yng Nghymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2002)
- Ieithoedd Tramor Modern yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru,- Cyfnodau Allweddol 2 a 3 (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2007) -
cynhwysir y fframwaith anstatudol yn Atodiad A i’r ddogfen
- Gwerthuso prosiectau peilot Ieithoedd Tramor Modern Cyfnod
Allweddol 2 Uned Pobl a Gwaith (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2007) – gellir ei lawrlwytho oddi ar dudalen gartref gwefan CA2 CILT Cymru.

Diweddarwyd ar: Hydref 30 2007
E-bost:carolyn.goodwin@ciltcymru.org.uk
nia.jones@ciltcymru.org.uk