|
Cyngor & Arweiniad ar gyfer pontio
Cyfnod Allweddol 2-3 |
|
Y cymorth a'r cyngor diweddaraf ar bontio...
Gan fod cymaint o ddiddordeb a gweithgaredd ar hyn o bryd mewn cyflwyno
ieithoedd yn yr ysgol gynradd mae'n angenrheidiol bod ysgolion yn cadw
momentwm y cychwyn cynnar trwy ystyried rhai o’r problemau sydd
ynghlwm â Phontio
|
|
|
|
| Ar gyfer arweinaid ac astudiaethau achos go iawn o Gymru, yn defnyddio
ieithoedd i gefnogi Pontio. Copïau yn RHAD AC AM DDIM |
DVD 20 munud ysgogol sydd yn cynnig darlun o'r pethau a gaiff eu
cyflawni mewn ysgolion clwstwr y Prosiect ledled Cymru. |
| Yng nghyhoeddiad 13
CILT Mind the Gap ceir
cyngor technegol i helpu’r athrawon i bontio’r bwlch rhwng
dysgu ieithoedd yn y cynradd a’r uwchradd ac mae’n amlinellu
mor bwysig yw gwybodaeth am gyflawniad a phrofiadau’r disgyblion.
Yn y llyfr hwn rhoddir sylw i fentrau lleol, cenedlaethol ac o fewn
yr ysgol sydd yn gymorth i sicrhau cydlyniad a dilyniant. Ceir awgrymiadau
o ran methodoleg addas, asesu, cofnodi cyflawniad a gweithgareddau
sydd yn cryfhau’r cyswllt rhwng yr ysgolion a’r athrawon.
Cliciwch ar y cyswllt uchod neu i archebu, ewch i sut
i archebu cyhoeddiadau CILT. |
Ffynhonellau cymorth eraill:
| ’Sianel
Deledu’r Athrawon - mae'r rhaglen arbennig hon yn
archwilio'r syniadau o rannu sgil rhwng athrawon uwchradd a cynradd
a'r ffordd y gall pob un ddod a'u profiad penodol a'u ffordd o feddwl
i'r sefyllfa dysgu (O.N. caiff y darnau eu cadw yn y llyfrgell
fideo ar ôl i'r dyddiad basio) |
Cysylltwch â ni
Rydym yn ymwybodol iawn yn CILT Cymru o’r gwaith da a wneir mewn
iaith a wneir yn yr ysgolion cynradd y tu allan i’r Prosiect Peilot
a byddem yn hoffi arddangos enghreifftiau ohono ar ein tudalennau Arferion
Da ar ein gwefan. Os hoffech glywed mwy am ieithoedd mewn ysgolion cynradd,
am glwstwr penodol neu am sut i ddechrau, edrychwch ar ein gwefan neu
cysylltwch â ni.
|