 |
Mae'n bleser gan CILT Cymru gyflwyno "Cam wrth
Gam", DVD 20 munud ysgogol sydd yn cynnig darlun o'r pethau
a gaiff eu cyflawni mewn ysgolion clwstwr y Prosiect ledled Cymru.
Y nod yw dathlu 3 blynedd o'r Prosiect a hybu'r manteision enfawr
ar gyfer yr ysgolion cynradd ac uwchradd tra'n cefnogi pontio ar
yr un adeg.
|
Byddwch yn clywed tystiolaeth wych ynglyn â'r pleser ac effaith
y Prosiect cyn belled gan athrawon a disgyblion yng Nghyfnod Allweddol
2 a Chyfnod Allweddol 3, yn ogystal â chael cyngor ymarferol gan
Bennaethiaid ar sut i ddechrau yn eich ysgolion eich hunain.
Bydd llawer o ddiddordeb wrth i GOPI AM DDIM o'r DVD gyrraedd pob ysgol
yng Nghymru yn gynnar yn nhymor yr haf.
Gellir archebu copïau pellach o CILT Cymru am £10 (yn cynnwys
p&p) neu fel arall, gwyliwch ef ar-lein.
Yn fuan, byddwch yn gallu lawrlwytho y DVD yn rhad
ac am ddim o'r dudalen hon...cadwch eich llygad ar agor am y cyswllt yma.
Mae'r holl ysgolion sydd ynghlwm yn rhan o Brosiect Peilot
ITM Cyfnod Allweddol, Llywodraeth Cynulliad Cymru:
Cam 1: 2003-06
Cam 2: 2006-08
|