Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Projectau & Mentrau
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 

Gwerthusiad o'r Prosiect - Adroddiad Terfynol ar Gam 1



Ar Chwefror 14eg, bydd y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes, a Sgiliau’r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn Adroddiad Terfynol positif iawn ar brosiect peilot Ieithoedd Tramor Modern Cyfnod Allweddol 2 Llywodraeth y Cynulliad. Cynhyrchwyd y gwerthusiad annibynnol yma gan Uned Pobl & Gwaith, Y Fenni. Dyma grynodeb o’r prif ddarganfyddiadau:

  • Mae staff ysgol, rhieni a disgyblion oll yn cytuno bod cyflwyno iaith dramor yng Nghyfnod Allweddol 2 yn ychwanegiad gwerthfawr i’r cwricwlwm statudol.
  • Anogodd y ffocws ar siarad a gwrando yn CA2, agwedd bositif gan ddisgyblion wrth iddyn nhw gyrraedd yr ysgol uwchradd.
  • Mae plant yn dod yn fwy ymwybodol o ddiwylliannau a phobloedd eraill.
  • Mae effaith bositif ar sgiliau iaith yn y Saesneg a’r Gymraeg.
  • Ystyrir bod rhywfaint o ruglder mewn dwy iaith (Cymraeg a Saesneg) yn fantais wrth ddysgu 3edd neu 4edd iaith.
  • Mae’r prosiect peilot ITM wedi helpu i ddatblygu neu gryfhau cysylltiadau pontio effeithiol rhwng yr ysgolion cynradd ac uwchradd.
  • Y gred yw bod dysgu arbenigol yn bwysig, a phan arweiniwyd y gwaith gan yr ysgol uwchradd, ystyriwyd hyn i fod yn arbennig o werthfawr ar gyfer datblygiad disgybl.
  • Fe lwyddodd y prosiect peilot ITM i ysgogi bechgyn a merched, ac roedd modd cynnwys disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig yn rheolaidd.
  • Gwelwyd brwdfrydedd mawr dros y prosiect gan athrawon, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr ysgolion.
  • Gwerthfawrogwyd rôl CILT Cymru wrth ddarparu hyfforddiant, cyngor ac arweiniad.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y broses o adolygu ‘Ieithoedd Sy’n Cyfrif’ ei strategaeth ieithoedd tramor. Lansiwyd y strategaeth wreiddiol, yr oedd project peilot CA2 yn rhan ohono, yn 2002. Bydd y peilot ITM cyfredol yn parhau i dderbyn arian gan LlCC hyd at 2008, pan fydd y strategaeth newydd yn cael ei lansio.

Bydd Gwerthusiad Annibynnol (Gwerthuswyr ARAD) yn cael ei gynnal drwy gydol 2008 a 2009 a fydd yn dod i ben gydag Adroddiad Terfynol a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad yn Nhymor yr Hydref 2008. Bydd ARAD yn ymweld â’r holl ysgolion uwchradd yn y Project a rhai ysgolion cynradd. Byddan nhw’n siarad gyda phrifathrawon ac athrawon dosbarth yn ogystal â phrif fudd-ddeiliaid o fewn AALau a sefydliadau eraill. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw a gweld effaith y Project yn CA3 cyn belled...

Ar gyfer ymholiadau CA2, cysylltwch gyda : carolyn.goodwin@ciltcymru.org.uk
 
Ar gyfer ymholiadau ariannol, cysylltwch gyda: