|
Cylchlythyr CILT Cymru
CA2 - Tudalennau 4-5
|
|
Rydym yn gobeithio eich bod chi'n mwynhau’r tudalennau dwbl (tud
4/5), sef adran Cyfnod Allweddol 2, sydd yn cynnwys eitemau o arfer da
gan ysgolion sy'n rhan o'r project, a'r clystyrau newydd hynny sy'n cael
eu creu'n rheolaidd.
Os gwelwch yn dda, dosbarthwch ef i bobl fyddai â diddordeb: staff,
Penaethiaid, rhieni, llywodraethwyr, i ddathlu’r gwaith da iawn
sydd yn digwydd.
Pob tymor, rydym yn gofyn i ysgolion anfon lluniau ac ychydig o linellau
i sôn am bethau maen nhw'n eu cyflawni. Rydym wedi derbyn llawer
o adroddiadau am ddigwyddiadau, diwrnodiau ieithoedd, clybiau ar ôl
ysgol, digwyddiadau pontio, arsylwadau gwersi cytbwys, teithiau tramor
sydd wedi eu cynllunio....a lluniau a sylwadau hyfryd. Rydym eisiau i'n
Cylchlythyr fod, cyn belled â'n bosibl, amdanoch CHI a dathlu'r
gwaith gwych sydd yn cael ei gyflawni.
Felly ysgrifennwch atom ni!
Rydym yn ddiolchgar iawn am eich cyfraniadau, dim ots pa mor fychan, i
rannu a lledaenu pob mathau o arfer da, felly anfonwch rywbeth drwy'r
post i ni yn fuan, yn barod ar gyfer cyfrolau’r dyfodol neu i gael
eu dangos ar adran “Arfer Da” o’n gwefan.
Os nad ydych chi’n derbyn y Cylchlythyr ar hyn o bryd ac os hoffech
chi dderbyn copi am ddim, neu os hoffech chi gael eich hychwanegu at restr
bostio CA2, cysylltwch â ni.
|