|
Ymwelwch â Llyfrgell Adnoddau CILT Cymru
... |
|
Rydym yn ychwanegu'n gyson at ein Llyfrgell Gyfeiriol Adnoddau Cynradd.
Mae gan CILT Cymru ddeunyddiau dysgu iaith yn gynnar (llyfrau, CD, adnoddau
gweledol, fideo a meddalwedd), ynghyd â dogfennaeth gefndirol gyfredol
ac adnoddau hyfforddi (cynlluniau gwaith, canllawiau athrawon at bwrpas
cyfeirio). Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu iaith i blant
iau ddefnyddio'r adnoddau aml-gyfryngol (cyfrifiaduron, offer clyweled
a fideo sydd yn ystafell y bwrdd)
- Mae rhestr o'r deunyddiau iaith sydd gan CILT Cymru ar gael yma
(ffeil excel)
- Chwiliwch hefyd yn yr adran Adnoddau
ar ein tudalen gartref am fanylion am bob adnodd sydd ar y farchnad
ar hyn o bryd.
Mae Carolyn a Nia (Ymgynghorwyr Addusgu Iaith Cynradd) ar gael i siarad
â chi os medrwch alw ymlaen llaw, ac mae un o dîm CILT Cymru
bob amser ar gael i gynnig cyngor. Os gadewch eich cyfeiriad e-bost neu
fanylion cyswllt medrwn wneud ymchwil i syniadau ar eich rhan.
Mae te, coffi a bisgedi bob amser ar gael! Mae mwy o fanylion a map ar
gael yma.
 |
Llyfrau, storïau, CDau, DVDau,
fideos, caneuon, gemau, syniadau ar gyfer gweithgareddau, cynlluniau
gwaith, deunyddiau cyfredol gan gyhoeddwyr, catalogau, rhaglenni
TG, CD Romau bwrdd gwyn cydadweithiol, teganau, pypedau… popeth
sydd ei angen arnoch chi i gychwyn! |
Mae Llyfrgell Adnoddau CILT Cymru
ar agor:
Ddydd Llun - ddydd Gwener 9am-5pm drwy'r flwyddyn ac eithrio
Gwyliau'r Banc a Chyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd |
|
Os na fedrwch alw i mewn
E-bost:carolyn.goodwin@ciltcymru.org.uk
nia.jones@ciltcymru.org.uk
neu drwy ffonio: 02920 480137.
Rhowch wybod i ni os yw eich ysgol chi yn rhan o Ddysgu Iaith yn Gynnar
neu os hoffai fod yn rhan o hynny. Byddem yn falch iawn o glywed beth
yr ydych yn ei wneud neu o helpu mewn unrhyw ffordd y medrwn.
Os hoffech ymuno â'r fforwm Dysgu Ieithoedd Cynnar cliciwch yma
Os hoffech ymuno â'n fforwm ieithoedd yng Nghymru cliciwch yma
Nid yw'r un yn costio dim ac mae'n amhrisiadwy i athrawon sydd
yn edrych am syniadau, ysgogiad neu chefnogaeth.
|