Cylchgrawn
Learning World
Mae cylchgrawn Y Cyngor Prydeinig yma ar gyfer ysgolion a cholegau’r
DU, yn amlinellu’r cyfleoedd i adeiladu dimensiwn rhyngwladol
i mewn i ddysgu ac yn dangos arfer da.
Prif thema’r rhifyn diweddaraf yw defnyddio’r amgylchedd
fel canolbwynt ar gyfer gweithgaredd rhyngwladol.
Mae erthyglau’n cynnwys:
Newid yn yr hinsawdd - rhai o’r ffyrdd y mae ysgolion yn defnyddio
eu cysylltiadau rhyngwladol i gyfeirio materion fel llygredd a newid
yn yr hinsawdd.
Empathi amgylcheddol- partneriaeth gydag India sy’n helpu
disgyblion cynradd yng Nghymru i werthfawrogi eu hamgylchedd lleol
ag amgylchedd y byd.
Sefydlu’r sail ar gyfer dysgu - sut y cynorthwyodd cyswllt
rhwng pum cenedl Ewropeaidd ddisgyblion cynradd i ddatblygu.
Adnoddau argymelliedig ar gyfer oedrannau 7-14 i gefnogi gwaith
yn yr ystafell ddosbarth a thrafodaeth ar faterion gwyrdd rhyngwladol.
Mae copi am ddim o’r rhifyn presennol ar gael i ysgolion
a sefydliadau sy’n tanysgrifio. Mae rhifynnau ‘r gorffennol
hefyd ar gael ar-lein. Am fwy o fanylion ac i danysgrifio, ymwelwch
yma.
Bydd y rhifyn 16 nesaf (Medi 2007) yn edrych ar yr effaith cwricwlaidd
o weithgareddau rhyngwladol mewn ysgolion. Os ydych chi wedi cymryd
rhan mewn rhaglenni’r Cyngor Prydeinig sy’n gysylltiedig
â’r topig yma, a fyddech gystal â chysylltu â
Learning World drwy anfon e-bost at: learningworld@britishcouncil.org
|