|
| Mae Joe Dale, athro ITM wedi creu 'blog' o'r enw Integreiddio
TGCH yn yr ystafell ddosbarth ITM sy'n cynnwys llawer o
syniadau i ddatblygu dysgu ac addysgu ITM yn yr ystafell ddosbarth
cynradd. Mae Grid ar gyfer Dysgu Northumberland yn cyflwyno sut i
ddefnyddio dweud
stori a meddwl
drwy chwedlau wrth ddysgu iaith yn yr ysgol gynradd. Ar
gael yn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg. Gadewch i ni wybod
eich barn. |
| Ffordd yw NACELL
National Advisory Centre on Early Language Learning (a gydlynir gan
CILT), o gael cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ar addysgu a dysgu
ieithoedd yn gynnar yn Lloegr. |
Ydych chi’n edrych am ffyrdd o gyrraedd a dysgu dysgwyr ITM
mor amrywiol â’r rhai hynny sydd ag anghenion arbennig,
Saesneg fel iaith ychwanegol, neu fyfyrwyr dawnus a thalentog? Ydych
chi eisiau defnyddio gweithgareddau TGCH, adnoddau a dulliau creadigol,
deniadol a gwahanol, ar gyfer dysgu ac addysgu ITM?
Darganfyddwch mwy ar wefan BECTA… |
| Ydych chi'n chwilio am gymorth
methodolegol ac ieithyddol
ar gyfer Ieithoedd Tramor Modern Cynradd? Mae gan NACELL arweiniad
cynhwysfawr ar yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, hanesion personol am
gyrsiau CILT dramor, deunyddiau ac adnoddau addysgu. |
| Ym Mwletinau
Dysgu Ieithoedd yn Gynnar NACELL ceir llawer o newyddion
positif a gwybodaeth ddefnyddiol am Ieithoedd Tramor Modern Cynradd
ledled y DU. Mae cylchlythyr y tymor hwn yn cynnwys erthygl ar gemau
a syniadau, y gellir eu haddasu, ar gyfer y dosbarth iaith (gyda deunyddiau
neu heb ddeunyddiau). Fel aelod o CILT Direct byddwch yn derbyn y
bwletinau tymhorol hyn am ddim. Os am ymaelodi â CILT Direct
Cynradd, ffoniwch 020 7379 5101 neu e-bostiwch: direct@cilt.org.uk |
Cylchgronnau electroneg TGCH y Gwanwyn gan Gyngor TGCH Becta.
Mae'r cylchgrawn 'ICT
in Primary' yn cynnig gwybodaeth ar draws y meysydd pwnc.
Mae erthyglau yn cynnwys darn estynedig ar 'Ehangu dysgu ac addysgu
gyda byrddau gwyn cydadweithiol. |
Deunyddiau
Datlbygiad Proffesiynol Parhaol Ffrangeg Cynradd
Mae'r deunyddiau peilot ar-lein yma o Loegr yn bennaf ar gyfer athrawon
sydd eisiau gwybod sut i ddysgu Ffrangeg i ddisgyblion oedran cynradd.
Nod y cwrs yw i allugoi y rhai sydd gyda diddordeb neu gefndir mewn
ieithoedd i loywi a chael y sgiliau, gwybodaeth pwnc, dealltwriaeth
pedagogaidd a hunan hyder angenrheidiol er mwyn cyflwyno neu chefnogi
dysgu Ffrangeg mewn ysgolion cynradd.
Gall deunydd fod yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd eisiau cyflwyno neu
atgyfnerthu iaith yn eu dosbarth eu hunain. |
Ymchwil Addysgol
I ddarllen yr ymchwil diweddaraf sydd yn ymestyn ar draws holl sectorau
addysg, o feithrinfa a chynradd i oedolion a dysgu gydol oes ar lefelau
cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol, cliciwch ar NFER
(National Foundation for Educational Research). Y nod yw gwella addysg
a hyfforddiant, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, drwy gynnal ymchwil,
gweithgareddau datblygu a lledaenu a drwy ddarparu gwasanaethau gwybodaeth.
Gwerth cael golwg. |
|