Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Projectau & Mentrau
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru

CYLLID CA2
Mae cylchgrawn Cronfa Ysgolion Gwell
ar gyfer Ebrill 2008-09 gyda'r AALlau erbyn hyn

ADRODDIAD TERFYNNOL CA2
Chwefror 2007

Peilot Ieithoedd Tramor Modern Cyfnod Allweddol 2 Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cyrsiau'r Cyngor Prydeinig ar gyfer Athrawon - ieithoedd CA2



Mae’r Portffolio Ieithoedd Ewropeaidd diwygiedig ar gael YMA mewn Saesneg a Cymraeg.

 

 

 

 



Prosiect Cynradd Cyfnod Allweddol 2

CAM 1: 2003-2006 CAM 2: 2006-2009
Ysgolion sydd yn cymryd rhan ym Mheilot Cyfnod Allweddol 2 Pontio CA2-CA3
Gwerthusiad o'r Prosiect Gwefanau Rhyngweithiol
y Mis
Adnoddau Cynradd
Cyhoeddiadau
Llythrennedd Triphlyg Ymwelwch â’n Canolfan Adnoddau
Cyllid DPP CILT Cymru/Hyfforddiant i ysgolion sydd ddim yn rhan o'r prosiect
Cylchlythyr Gweithgareddau i ysgolion sydd ddim yn rhan o'r prosiect
Y Dimensiwn Rhyngwladol
Partneriaethau Ysgol Rhyngwladol
Dechrau'r Daith gydag ieithoedd cynradd
Rhannu Arfer Da    


Beth sy’n newydd ar gyfer
Cyfnod Allweddol 2...?



Yr Her Iaith i Blant Ifanc 2008

Fe grëwyd y gystadleuaeth unigryw yma i roi ‘r cyfle i filoedd o blant ar draws y wlad i fod ar flaen y gad wrth ddysgu ieithoedd.

Mae arbenigwyr yn cytuno mai’r mwyaf o ymarfer rydym ni’n cael i ddysgu iaith newydd - unrhyw iaith o gwbl - y gorau rydym yn dod o ran dysgu iaith newydd. A’r mwyaf ifanc, y gorau.

O ganlyniad, rydym yn rhoi her i blant ysgol gynradd i ddysgu hyd at dair iaith mewn llai na 9 mis, gan ddechrau gydag Iseldireg!

Ydych chi eisiau cymryd yr Her – darllewnch fwy yma!


Cyhoeddiad newydd CILT (allan ym mis Mai 2008)
Young Pathfinder 15
'Speak Up! Using the target language in class'

Syniadau am weithgareddau ar sut i annog rhoi’r iaith darged wrth waith ar gyfer CA1 a 2. Rhoddir esiamplau mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg.

Ar gael o Central Books: 0845 458 9910
www.centralbooks.com


Ebrill 10fed 2008 Ymweliad Cynradd gan y Gweinidog
Jane Hutt, y Gweinidog dros Addysg yn ymweld â chlwstwr Tregaron o ysgolion...


Ffrangeg ag Addysg GorfforolE - "Take 10 en francais"

Adnodd newydd hyfryd o Devon Educational Services i ysgolion sydd eisiau gwella'r ysgol gyfan drwy gael disgyblion i gymryd rhan mewn Gweithgaredd Corfforol Dyddiol. Mae'n cynnwys 2 CD, 1 DVD, gweithgaredd dwyieithog a chanllaw hawdd i'w ddefnyddio i athrawon. Byddwch chi'n dod o hyd i lawer o odlau a chaneuon ynddo, gweithgareddau ar gyfer lleoedd bychain, sialensiau ar gyfer cydweithio, a gemau rhedeg.

Lawrlwythwch y daflen (pdf 73kb)


Erbyn hyn, mae Enzine Cynradd newydd CILT wedi cymryd lle Bwletin hen NACELL a gellir ei ddosbarthu'n syth i'ch bocs e-bost. Mae'n cael ei gyhoeddi dair gwaith y flwyddyn ac mae'n cynnwys y newyddion diweddaraf yn y sector, dolenni i esiamplau o arfer da, gwybodaeth a chyngor. I danysgrifio am ddim, cofrestrwch eich manylion ar wefan CILT: http://www.cilt.org.uk/


Cronfa Ysgolion Gwell: Ebrill 2008-09

Am y tro cyntaf, Blaenoriaeth 1C yng Nghronfa Ysgolion Gwell y flwyddyn nesaf yw:
"Cyflwyno iaith dramor modern yng Nghyfnod Allweddol 2”

O ganlyniad, mae’r maes yma’n gymwys am gefnogaeth grant drwy’r AALl.

Rhagwelir y bydd clystyrau o ysgolion yn gweithio gyda’u hysgolion Uwchradd lleol i gyfoethogi'r cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol CA2, cefnogi trefniadau Pontio a sicrhau parhad yng nghynnydd disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3.

Bydd gan bob AALl eu trefniadau/cynlluniau eu hunain ar gyfer y maes cymhwyster yma, felly cysylltwch â’ch cynrychiolydd Cronfa Ysgolion Gwell lleol i ddarganfod pa weithgaredd posib sydd wedi ei gynllunio ar gyfer ysgolion o fewn eich awdurdod chi.

Bydd ITM yn CA2 yn parhau i fod yn Faes Blaenoriaeth y Cynulliad am 3 mlynedd:
2008-09
2009-10
2010-11

Cliciwch YMA am fwy o wybodaeth am y cyllid yma gan yr AALL...



Newydd ar gyfer Ieithoedd Cynradd - Parth Hyfforddi

Mae CILT, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd wedi datblygu parth hyfforddi newydd i arweinwyr, athrawon a hyfforddwyr sydd ynghlwm mewn cynllunio a dosbarthu ieithoedd yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae’r wefan Primary Languages yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac esiamplau fideo o ryngweithio ac arfer da yn yr ystafell ddosbarth cynradd, er mwyn sefydlu ieithoedd yn y cwricwlwm cynradd. Mae’r safle ar gyfer arbenigwyr a phobl sydd ddim yn arbenigwyr sy’n cyflwyno neu sydd eisoes yn dysgu unrhyw ieithoedd yng Nghyfnod Allweddol 2.


Cyhoeddiad CILT
"Young Pathfinder 14: We have the technology! "
"Using ICT to enhance primary languages"

Mae gan La Jolie Ronde ateb llawn erbyn hyn ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, sydd wedi cael ei wneud o Gynlluniau Gwaith Ffrangeg ar gyfer blwyddyn 3 a 4, a Chynllun Gwaith Ffrangeg ar gyfer blwyddyn 5 a 6. Ewch i www.lajolierondie.co.uk am adnoddau a chyrsiau Ffrangeg ar gyfer yr Ysgol Feithrin a'r Ysgol Gynradd, CDau, posteri, tripiau ysgol i Ffrainc a llawer, llawer mwy...