Prosiect Cynradd Cyfnod Allweddol 2
CAM 2: 2006 - 2009 |
|
Dechreuodd Cam 1 fel prosiect 3 blynedd i gefnogi clystyrau
ysgolion cynradd ac uwchradd oedd eisiau cyflwyno iaith dramor yn CA2.
Casglwyd sail tystiolaeth werthfawr gan Lywdoraeth Cynulliad Cymru o sut
i ddysgu ac addysgu iaith dramor ar ffurf yr Adroddiad Interim Annibynnol.
Roedd y peilot yma yn gymaint o lwyddiant, fel bod y Cynulliad Cenedlaethol
wedi cytuno ymestyn y prosiect am 3 mlynedd arall.
Bydd cam 2 (2006-2009) yn parhau i ddatblygu sgiliau
iaith disgyblion ac athrawon yn y sector gynradd, ac yn edrych yn agos
ar sut mae disgyblion yn datblygu yng Nghyfnod Allweddol 3. Nawr, bydd
mwy o bwyslais yn cael ei roi ar rôl yr ysgol uwchradd, yn nhermau
adeiladu ar wybodaeth flaenorol disgyblion yn ogystal â pharhau
i weithio gyda’u hysgol bwydo i sicrhau bod trefniadau pontio effeithiol
mewn lle.
Bydd Gwerthusiad Annibynnol (Gwerthuswyr ARAD) yn cael
ei gynnal drwy gydol 2008 a 2009 a fydd yn dod i ben gydag Adroddiad Terfynol
a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad yn Nhymor yr Hydref
2008. Bydd ARAD yn ymweld â’r holl ysgolion uwchradd yn y
Project a rhai ysgolion cynradd. Byddan nhw’n siarad gyda phrifathrawon
ac athrawon dosbarth yn ogystal â phrif fudd-ddeiliaid o fewn AALau
a sefydliadau eraill. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw a gweld
effaith y Project yn CA3 cyn belled...
Cliciwch yma
(pdf) i lawrlwytho pamffled sy'n amlinellu cam 2 y prosiect peilot. (Os
nad yw eich disgyblion blwyddyn 6 wedi mynd â phamffled adref eto,
cysylltwch â Nia neu Carolyn, eich ymgynghorwyr cynradd).
|