Prosiect Cynradd Cyfnod Allweddol 2
CAM 1: 2003 - 2006
CAM 2: 2006 - 2008 |
|
Beth yw hyn?
I ddechrau, rhaglen beilot 3 blynedd ar gyfer ieithoedd modern tramor
mewn ysgolion cynradd yng Nghymru oedd y peilot yma, ond erbyn hyn, mae'r
Peilot wedi cael ei estyn am 2 flynedd arall. Noddir y peilot gan Lywodraeth
Cynulliad Cymru a chaiff ei gweithredu gan CILT Cymru - y Ganolfan Genedlaethol
ar gyfer Ieithoedd yng Nghymru. Mae'r peilot yn rhan o strategaeth y Cynulliad
'Ieithoedd Sy'n Cyfrif' - sydd gyda'r bwriad o gynyddu dysgu ieithoedd
ledled Cymru.
Beth yw bwriad y prosiect ITM yn gyffredinol?
- Rhoi cymorth i ysgolion sy'n dymuno addysgu iaith dramor yng Nghyfnod
Allweddol 2
- I'r Cynulliad i greu cronfa o dystiolaeth ynghylch sut y gall addysgu
a dysgu iaith dramor yn CA2 gyflenwi a chyfoethogi'r cwricwlwm cynradd
a bod o fantais i ddisgyblion pan fyddant yn symud ymlaen i ysgol uwchradd
Pwy sydd yn rhan o'r Prosiect?
Roedd Cam 1 y prosiect yn cynnwys 22 o ysgolion uwchradd ledled Cymru
a'r 105 o ysgolion cynradd sy'n eu bwydo. Mae Cam 2 yn cwblhau clystyrau
anghyflawn yng Ngham 1, ac felly yn cynyddu'r effaith wrth newid i'r ysgol
Uwchradd. Ar hyn o bryd, mae 118 o ysgolion cynradd yn rhan o'r Prosiect.
Mae'r Prosiect yn cynnig amrywiaeth o ieithoedd tramor modern a darpariaeth
addysgu. Mae tua hanner o'r ysgolion yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn bennaf,
mae'r Peilot yn cynnwys blynyddoedd 5 a 6, ond mae rhai clystyrau wedi
mynd a'r dysgu i lawr i flwyddyn 4. Y brif iaith a ddewiswyd oedd Ffrangeg,
ond mae hefyd enghreifftiau o Sbaeneg, Almaeneg ac Eidaleg.
Casglodd Cam 1 sail dystiolaeth gynhwysfawr o sut i gyflwyno ITM yng
Nghyfnod Allweddol 2 ac edrychodd ar y manteision i'r cwricwlwm. Gwerthuswyd
Cam 1 yn annibynnol ac roedd yr adroddiad yn galonogol iawn.
Bydd Cam 2 yn parhau i gefnogi'r sector cynradd, ond bydd yn pwysleisio
mwy ar drefniadau Pontio a thracio disgyblion y Prosiect wrth iddyn nhw
symud ymlaen drwy Gyfnod Allweddol 3. Ar ôl y peilot, pan fydd Llywodraeth
Cynulliad Cymru wedi cael amser i ystyried yr holl ddarganfyddiadau, byddwn
ni'n aros am benderfyniad ynglyn â dyfodol ieithoedd cynradd yng
Nghymru.
Sut mae'n cael ei drefnu?
Mae ysgolion yn derbyn grant fach i'w galluogi nhw i weithio fel 'Clystyrau'
e.e. un ysgol uwchradd yn gweithio'n agos gyda'r ysgolion cynradd cysylltiedig.
Beth bynnag yw'r dull dosbarthu, mae clystyrau yn cydweithio ar raglen
astudio a rhesymeg tu ôl i'r ddarpariaeth. Mae clystyrau yn penderfynu
ar y trefniadau dysgu gorau iddyn nhw:
A. Athrawon uwchradd yn ymweld ag ysgolion cynradd i ddarparu gwersi
wythnosol, gydag athrawon cynradd yn gwylio, atgyfnerthu a darparu cefnogaeth.
B. Athrawon cynradd gydag arbenigedd yn dysgu dosbarthiadau yn yr ysgol,
gyda chymorth gan gydweithwyr Uwchradd.
C. Clystyrau yn cyflogi athro/athrawes bro i ddarparu gwersi iaith.
NEU bydd clystyrau yn cyflogi cymysgedd o'r 3 modelau
Mae clystyrau yn cyfarfod yn rheolaidd i arolygu datblygiad a chynllunio
ar gyfer y dyfodol.
Mae athrawon yn rhannu arbenigedd unigol - cydweithwyr cynradd yn darparu
methodoleg Cyfnod Allweddol 2, cydweithwyr Cyfnod Allweddol 3 yn darparu'r
wybodaeth iaith arbennig.
Erbyn hyn, rydym wedi casglu tystiolaeth am 3 mlynedd i gynnig fod gan
bob model ei fanteision ei hun. Roedd y darganfyddiadau yn yr Adroddiad
Interim (2005) yn ofnadwy o bositif gan ddarganfod tystiolaeth gadarn
o esiamplau i gefnogi'r amcanion a gynigwyd ar ddechrau'r Prosiect.
Beth yw amcanion y Prosiect?
- Gwneud dysgu ieithoedd tramor yn brofiad pleserus a buddiol i ddisgyblion
- Ennyn brwdfrydedd dros ieithoedd pan yn ifanc ac, ar yr un pryd, meithrin
agweddau positif tuag at ddiwylliannau eraill.
- Datblygu sgiliau iaith a llythrennedd disgyblion wrth adeiladu ar
natur ddwyieithog ysgolion cynradd yng Nghymru.
- Ysgogi disgyblion o bob gallu trwy ddefnyddio dulliau addysgu aml-synnwyr
- Meithrin cydweithrediad cynradd - uwchradd effeithiol a hyrwyddo synnwyr
o bwrpas cyffredin trwy rannu arferion da
- Datblygu swyddogaeth yr athro dosbarth gyda golwg ar gynaladwyedd
hirdymor y Prosiect.
Pam mae'n dda dechrau dysgu ieithoedd yn gynnar?
Mae'r wybodaeth uchod ar gael fel taflen lliw mewn fformat pdf Gwybodaeth
Prosiect Cyfnod Allweddol 2
|