Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Projectau & Mentrau
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 

 

"DECHRAU'R DAITH"
Canllawiau ar gyfer Cyflwyno Iaith Dramor Fodern yng Nghyfnod Allweddol 2

Comisiynwyd yr arweiniad hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn lledaenu’r gwaith arloesol a’r arfer da a geir mewn ysgolion cynradd ac uwchradd sy’n rhan o’r Prosiect Peilot Cenedlaethol (2003-09) sydd wedi cefnogi ysgolion i gyflwyno iaith dramor fodern yng Nghyfnod Allweddol 2.when considering introducing or developing a modern foreign language in Key Stage 2.
Mae'r arfer da sydd yn y canllawiau'n seileidig ar brofiadau ysgolion cynradd ac uwchradd dros y 5 mlynedd ddiwethaf sy'n cymryd rhan ar hyn o bryd yn y Peilot Cenedlaethol gyda CILT Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru (2003-09).
Fe ragwelir y bydd clystyrau o ysgolion yn defnyddio'r canllawiau fel y sylfaen ar gyfer eu trafodaethau. Mae gweithio mewn clystyrau wedi bod yn fodel llwyddiannus iawn, sydd wedi cael llawer o fanteision yn ystod cyfnod y Peilot.

Mae'r canllawiau'n ymddangos mewn 6 rhan:

 
 

Cyflwyniad i 'Dechrau'r Daith'-
Rhagair - Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Sgiliau Gydol Oes
Cyflwyniad - cefndir ar ddatblygu'r canllaw
Rhesymeng - y manteision o ddysgu ieithoedd yn gynnar, adeiladu ar ddwyieithrwydd

 
 

RHAN 1: Gwneud iddo ddigwydd Mae'r adran hon yn edrych ar y penderfyniadau ymarferol sydd angen cael eu trafod fel clwstwr/AALl, er enghraifft iaith, grwp blwyddyn, model darpariaeth ac ati.

 
 
RHAN 2: Arfer Da Mae'r adran hon wedi cael ei rhannu’n ddwy ran. Mae’n darparu ffyrdd ymarferol ynghylch sut gallai astudio iaith gyfoethogi’r cwricwlwm cynradd. Yna, mae’n rhoi canllaw ar sut i wella trefniadau pontio, a’r ffyrdd y gallai athrawon adeiladu ar y dechreuad cynnar yn CA3.
 
 
RHAN 3: Y Camau Nesaf Mae Y Camau nesaf yn darparu rhestri gwirio ymarferol a chynlluniau y dylai’r clwstwr eu gweithredu, i’ch tywys chi drwy’r camau nesaf. Mae’r rhain yn berthnasol ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac AALlau, ac mae’n bosib eu teilwra ar gyfer sefyllfaoedd unigol.
 
 
RHAN 4: Cymorth a chefnogaeth pellach Mae'r adran hon yn darparu rhestr gyfredol o gysylltiadau defnyddiol ar gyfer pob AALl, cyfleoedd hyfforddi a darparwyr DPP, yn ogystal â ffynonellau cyllido.
 
 

Atodiad - d o hyd i unrhwy rai o'r dogfennau y cyfeirir atynt yn y canllawiau. Cydnabyddiaethau

   

Fel arall:

Lawrlwythwch y ddogfen gyfan

* Ar ddiwedd Rhananu 1-4, rydyn ni wedi cynnwys adran o'r enw " diweddariadau & nodiadau" fel eich bod chi'n gallu storio ychwanegiadau eich hun i'r ffeil a'u defnyddio fel dogfen waith.

Sut gallaf gael gafael ar gopi?

1. Lawrlwythwch y fersiwn pdf yma - mae'r cysylltiadau isod yn fyw ac fe fyddan nhw'n agor pob sesiwn i chi eu llawrlwytho.
2. Copïau caled o'r ffeil - ar gael NAWR. I gychwyn, cysylltwch â'ch AALl i weld os ydynt wedi archebu sawl copi i ysgolion o flaenllaw.

Os nac ydynt, argraffwch y FFURFLEN ARCHEBU hon, ac un’ai:
-dychwelwch gopi ar bapur i Llinos Jones, Gweinyddydd CA2 yng nghyfeiriad post CILT Cymru,
-anfonwch ffacs i 02920 480145
-neu sganiwch hi a'i hanfon hi drwy'r post at: llinos.jones@ciltcymru.org.uk

3. Copïau CDRom - mae gennym gopïau ar CDRom, felly cysylltwch â ni fel yr uchod.

Diweddarwyd ar: Chwefror 25 2010
E-bost: llinos.jones@ciltcymru.org.uk