Newyddion drwg ynghylch ystadegau ITM |
|
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi ei ystadegau diweddaraf
ynglyn â’r niferoedd sy’n astudio ITM yng Nghymru. Maen
nhw’n dangos bod y niferoedd sy’n astudio ITM hyd at lefel
TGAU wedi disgyn unwaith eto yn 2007, i ddim ond 28% o blant ysgol.
Cliciwch yma
i ddarllen y bwletin.
Bydd CILT Cymru yn parhau â’r gwaith o wrthdroi'r gostyngiad
yma drwy’r prosiect Cytundeb a drwy ein digwyddiadau gyrfaoedd.
Mae ysgolion sy’n cymryd rhan yn y ddwy fenter yma wedi llwyddo
i ‘nofio yn erbyn y llif’ ac yn wir, wedi llwyddo i gynyddu
niferoedd yn CA4. Mae’r rhai hynny sy’n gweithio gyda chlystyrau
o ysgolion cynradd er mwyn cyflwyno ITM yn CA2 hefyd yn sôn am agwedd
mwy positif at y pwnc ymysg disgyblion sy’n cychwyn yng Nghyfnod
Allweddol 3. I ddysgu mwy neu i gael cyngor gan Swyddog CILT Cymru, cysylltwch
â ni.
|