|
 |
Cymru, Ewrop a'r Byd
Mae Cymru, Ewrop a'r Byd yn amlygu cysylltiadau Ewropeaidd Caerdydd
a Chymru, ac yn cynorthwyo eich disgyblion i i ddarganfod mwy am
weithio, astudio a theithio yn Ewrop ac ymhellach, tra'n defnyddio
eu hieithoedd i'w galluogi i wneud y mwyaf o'u profiad.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma
|
| |
|
 |
Llwybrau at Ieithoedd Cymru: Cydlynydd Prosiect
Swydd llawn-amser (ond ystyrir ceisiadau ar gyfer swydd rhan-amser),
am gyfnod o flwyddyn yn y lle cyntaf.
Lleoliad: Caerdydd.
Cyflog: £19,864 (Graddfa 2 CILT).
Dyddiad cychwyn: Ionawr 2010 /i’w drafod
Rydyn ni’n edrych am weinyddwr profiadol i ddarparu cefnogaeth
gynhwysfawr i gefnogi Rheolwr Prosiect ‘Llwybrau at Ieithoedd
Cymru’.
*Mae’r gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol*
Cliciwch yma
am swydd ddisgrfiad (ffeil pdf 431kb) ac yma
am ffurflen gais (ffeil pdf 180kb)
|
| |
|
 |
2 fwlch ar Fwrdd Ymgynghoorl CILT Cymru
Gwahoddir ceisiadau i lenwi 2 fwlch sydd wedi codi ar Fwrdd Ymgynghorol
CILT Cymru.
Cliciwch yma
am ragor o fanylion
|
| |
|
 |
CILT yn chwilio am brosiectau mwyaf arloesol y Deyrnas
Unedig
Gyda cheisiadau nawr yn cael eu derbyn ar gyfer Gwobr fawreddog
Ieithoedd Ewrop y flwyddyn nesaf, mae’r chwilio wedi dechrau
am brosiectau dysgu ieithoedd mwyaf arloesol y Deyrnas Unedig. Mae
ysgolion, colegau a phrosiectau addysg oedolion a chymunedol yn
cael eu hannog i ymgeisio cyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr
2010: www.cilt.org.uk/eal
Cliciwch yma
am ragor o fanylion
|
| |
|
 |
| Llwybrau at Ieithoedd
Cymru
Erbyn hyn, mae Cymru wedi ymuno’n swyddogol â’r
prosiect Llwybrau at Ieithoedd, sydd â’r nod o
ddenu rhagor o bobol ifanc i astudio ITM yn y brifysgol, p’un
ai fel pwnc gradd neu bwnc atodol. Fe fydd Cyngor Cyllido
Addysg Uwch Cymru yn buddsoddi £750,000 dros 3 mlynedd
yn y prosiect cyffrous yma, gan ddod a Chymru ar y cyd â
Lloegr, lle mae 9 consortiwm rhanbarthol yn cychwyn trydedd
blwyddyn eu prosiect erbyn hyn.
Cliciwch yma
am ragor o fanylion
|
|
| |
|
 |
Dyfodol ITM Cynradd yng Nghymru
Gyda Phrosiect Peilot CILT Cymru/Llywodraeth Cynulliad Cymru (2003-2009)
yn dod i ben yn swyddogol yn ystod tymor yr haf 2009, mae ein sylw
nawr yn cael ei droi at ddyfodol ieithoedd tramor modern yng Nghymru.
Y camau nesaf fydd rhannu’r arfer da sy’n bodoli yng
Nghymru ac ymestyn y cyfleoedd ar gyfer ITM mewn ysgolion cynradd.
O ganlyniad, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod cynnig yn
y ddogfen ddiwygiedig ‘Sicrhau bod ieithoedd yn cyfrif’
i greu ‘Rhwydwaith o Ysgolion Arloesol’ o 2010, lle
fyddai clystyrau’n gweithredu fel canolfannau rhagoriaeth
ar gyfer eu hardaloedd, gyda phob AALl, mewn theori, yn cael canolfannau
rhagoriaeth eu hunain…
Cliciwch yma
am ragor o fanylion
|
|