Mae dysgu ieithoedd ar lefel addysg uwch yn gwbl wahanol i'r
ysgol: byddwch chi'n gweithio mewn grwpiau llai gyda phobl debyg
i chi; bydd gennych chi fwy o annibyniaeth; gallwch chi ddilyn
llwybr dysgu personol; a bydd gennych chi well adnoddau fwy na
thebyg i'ch helpu i ddysgu. P'un ai fyddwch chi'n dewis iaith
hollol newydd neu un rydych chi wedi'i hastudio o'r blaen, bydd
cymryd gradd sy'n cynnwys ieithoedd yn agor y drws i bob math
o gyfleoedd yn eich bywyd tra yn y brifysgol ac ym myd gwaith.
Lawrlwythwch ein taflen ffeithiau gynhwysfawr sydd wedi’i hanelu
at fyfyrwyr hyn, ac sy’n darparu astudiaethau achos, gwybodaeth
a chyngor ar gyfuno iaith gydag opsiynau gradd eraill yn y brifysgol.
Cymysgwch
Hi!: Yn cyfuno iaith â'ch cwrs prifysgol dewisedig
(pdf 317 kb)