Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Cyfleoedd
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 

Enw:
Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan AC

Dyddiad Geni:
9fed Medi 1939

Swydd:
Prif Weinidog Cymru

Ieithoedd:
Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg, Almaeneg (ychydig), Sbaeneg (ychydig)

Sut ddysgoch chi'r ieithoedd hyn:
Cefais fy magu’n siarad Cymraeg, dysgais Saesneg ar y stryd ac yn yr ysgol. Dysgais Ffrangeg pan oeddwn i’n 11 mlwydd oed ac Almaeneg pan oeddwn i’n 13 mlwydd oed yn yr ysgol uwchradd. Dysgais Sbaeneg wrth fynd ar wyliau a mynychu gwersylloedd haf.

A ydych yn meddwl bod y ffaith eich bod yn siarad ieithoedd yn eich helpu chi yn eich swydd?
Heb os nac oni bai, hyd yn oed pan rwyf ond yn siarad tipyn o frawddegau’n unig.

Ym mha wledydd ydych chi wedi bod? Sut oeddech chi'n cyfathrebu gyda'r bobl?
Mae gormod i’w rhestru. Cyfathrebais gyda phobl yn yr iaith leol os oeddwn yn gallu.

Ydych chi’n credu bod pobl yng Nghymru a phobl sy’n siarad Cymraeg yn ymateb ichi’n well oherwydd eich bod chi’n siarad yr iaith?
Ydw

Yn ystod eich amser fel Prif Weinidog, rydych chi mwy na thebyg wedi cael y cyfle i gwrdd â phobl o ledled y Byd. Gyda hyn mewn golwg, pa ieithoedd oedd y rhai mwyaf pwysig yn eich barn chi?
Mae’n anodd dweud – Saesneg ac wedyn Sbaeneg mwy na thebyg

Pa ieithoedd (ar wahân i Saesneg) ydych chi’n meddwl bydd y prif ieithoedd ar gyfer busnes yn y dyfodol?
Mandarin a Sbaeneg

A fyddech chi’n annog pobl ifanc yng Nghymru i barhau i ddysgu ieithoedd a pham?
Byddwn oherwydd rydych chi’n dysgu sgiliau cyfathrebu sy’n angenrheidiol y dyddiau hyn, yn cael gwared â rhwystrau ieithyddol, ac mae hi gymaint gwell na siarad iaith eich hun yn unig. Ni ddylem ni gymryd yn ganiataol bod pobl eraill mor awyddus i siarad Saesneg.

Diweddarwyd ar: Awst 24 2006
E-bost: llinos.jones@ciltcymru.org.uk