 |
Enw: Stephen Jones
Dyddiad Geni: Rhagfyr 8 1977
Swydd: Chwaraewr rygbi proffesiynol i'r Scarlets
yn Llanelli. Mae hefyd wedi chwarae i Clermont-Auvergne yn Ffrainc
yn ddiweddar, ac i ochr cenedlaethol Cymru.
Ieithoedd: Ffrangeg a Chymraeg |
Sut oedd eich Ffrangeg pan gyrhaeddoch chi Clermont-Ferrand?
Dim yn dda! Trefnodd y clwb wersi i mi ar unwaith, ac fe wnes fy ngorau
i siarad Ffrangeg gymaint ag y gallwn. Cofiwch chi, wrth chwarae yn safle
maswr, roedd rhaid i mi ddysgu'r galwadau'n fuan iawn!
Roedd aelodau eraill y tîm yn edrych yn bur hapus gyda chi.
Sut oeddech chi'n dod ymlaen gyda nhw fel arfer?
Roedden nhw'n griw gwych o fechgyn, ac fe helpon nhw fi llawer iawn gyda
fy Ffrangeg. Fe wnaethon nhw i mi deimlo'n gartrefol iawn! Roedden nhw'n
dal i wneud hwyl am fy mhen, ond erbyn y diwedd roeddwn i'n deall yn well
beth roedden nhw'n ei ddweud!
Sut oedddech chi'n mwynhau byw yn Ffrainc yn gyffredinol?
Ffantastig! Mae rygbi mor bwysig yno, ac roedd pawb wedi fy nhrin mor
dda. Roeddwn i wrth fy modd gyda'r ffordd o fyw yma.
Wnaethoch chi astudio Ffrangeg yn yr ysgol?
Do, fe astudiais Ffrangeg hyd ddiwedd blwyddyn 9 yn Ysgol Bro Myrddin,
ond roeddwn yn meddwl gormod am chwarae rygbi i ddychmygu y byddwn i byth
angen iaith arall yn ogystal â'r Gymraeg a Saesneg
Felly, oes gennych chi neges i'r holl bobl ifainc yng Nghymru
sydd yn dewis eu pynciau?
Oes! Ewch ymlaen gyda'r ieithoedd tramor! Er fy mod wedi gwella wrth fyw
yn Ffrainc, rwy'n difaru na wnes i gymryd fy ngwersi Ffrangeg fwy o ddifri
yn yr ysgol. Fe wnes i gymaint o ffrindiau yn Ffrainc, ond byddai wedi
bod yn haws o lawer pe bawn i wedi dysgu Ffrangeg pan oeddwn yn fachgen
ifanc.
|