Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Ieithyddion Enwog
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 
Llun_Sian Enw: Sian Lloyd

Swydd: Rhagolygwraig tywydd

Ieithoedd: Ffrangeg a Cymraeg

Pa ieithoedd ydych chi'n eu siarad?
Dwi'n siarad Cymraeg a Saesneg a thipyn o Ffrangeg.

Pam wnaethoch chi benderfynu dysgu Ffrangeg?
Mae fy chwaer, Ceri Brugeilles yn briod â Ffrancwr ac felly rydw i'n ymweld â hi yn gyson. Mae fy nai hefyd yn byw yn Ffrainc felly dysgais i Ffrangeg er mwyn gallu cyfathrebu yn Ffrainc.

Ydych chi'n meddwl fod y ffaith eich bod yn gallu siarad Cymraeg yn barod yn fantais pan ydych yn dysgu iaith arall?
Heb os nac onibai, os mae ail iaith gennych chi'n barod, mae iaith arall yn hawsach eto i ddysgu. Fel esiampl, mae fy nai Dafydd Owen yn siarad Cymraeg a Ffrangeg ac wedi dechrau dysgu dipyn bach o Sbaeneg heb drafferth hefyd.

Mae eich chwaer yn byw yn Frainc ac yn siarad Ffrangeg yn rhugl. Ydych chi wedi byw dramor neu wedi cael eich temptio i wneud hyny?
Na 'dwi erioed wedi byw dramor ond 'dwi wedi treulio cyfnodau byr mewn gwledydd eraill.Dwi'n mwynhau teithio.Gan fod fy chwaer yn byw yn Ffrainc, rydw i wedi treulio amser yn Ffrainc. Rydw i'n difaru nad ydw i wedi byw dramor achos dwi'n meddwl fy mod i wedi colli cyfle.

A fuasech chi'n annog disgyblion i barhau gyda dysgu ieithoedd mewn ysgolion?
Yn bendant, nid yn unig ydy hi'n werthfawr o safbwynt teithio ond hefyd o safbwynt gyrfa. Mae dysgu iaith arall yn rhoi dau safbwynt gwahanol i chi ar fywyd ac yn datblygu'r allu i weld dwy ochr i bob sefyllfa.

A fuasech chi'n dweud fod siarad iaith arall yn fantais ar gyfer gyrfa yn y cyfryngau? Os felly, mewn pa ffyrdd?
Byddwn, oherwydd pan dechreuais i weithio i Worldwide Television News roeddwn i ymysg darlledwyr o bob gwlad e.e. Canada, Korea a Tsieina ac mi roeddynt yn disgwyl i bawb fod yn ddwyieithog. Roedden nhw'n cymryd hi'n hollol ganiataol fod pob un yn gallu siarad mwy nac un iaith,
O safbwynt ariannol, mae siarad dwy iaith yn golygu dwbl y cyfleodd o weithio felly mae mwy o gyfle i berson dwyieithog ennill mwy o arian ym myd y cyfryngau, er enghraifft, mae'r ffaith fy mod i'n siarad Cymraeg a Saesneg yn golygu fy mod yn cael cyfle i weithio yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.

Ydy ieithoedd tramor yn cael eu defnyddio ym maes meteoroleg/rhagolygon y tywydd?
Mae IWP (Imternational Weather Productions) yn darparu ac yn cynhyrchu 'r rhagolygon ar gyfer gwledydd ar draws y byd felly ydy, mae'n ddefnyddiol i allu siarad ieithoedd eraill ym myd y rhagolygon,

Ydych chi'n clywed llawer o ieithoedd yn cael eu siarad yn stiwdio ITN?
Er bod ITN yn darlledu drwy gyfrwng y Saesneg yn y wlad hon , maen nhw'n gwerthu "footage" i gwmniau teledu ar draws y byd i gyd. Er enghraifft, gwerthwyd y stori a lluniau o lwyddiant Ellen Maccarthur i gwmioedd eraill ar draws y byd.

Ydy dysgu iaith arall wedi cyfoethogi eich bywyd? Sut?
Mae deall iaith arall wedi cyflwyno diwylliant gwahanol i mi. Buaswn i gymaint yn dlotach os nad oeddwn i'n siarad iaith arall. Hefyd, mae dysgu iaith arall mor hawdd gan fod digonedd o CD roms a thapiau ar gael i wneud hynny - felly does dim rheswm i beidio!

Diweddarwyd ar: Ionawr 20 2006
E-bost: llinos.jones@ciltcymru.org.uk