|
 |
Enw: Rebecca John
Dyddiad
Geni: 15.04.70
Swydd: Gohebydd teledu a chyflwynwraig gyda BBC
Wales Today
Ieithoedd: Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Cymraeg
(fel ail iaith) a thipyn o Sbaeneg. |
Pa ieithoedd ydych chi'n eu siarad?
Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, tipyn o Gymraeg ac ychydig o Sbaeneg. Astudiais
Ffrangeg ac Almaeneg yn y Brifysgol ac mae gennyf lefel O mewn Cymraeg a
Sbaeneg. Rwyf wedi gwneud amryw o gyrsiau Cymraeg ers pan ddychwelais o'r
Brifysgol. Mae fy Ffrangeg a fy Almaeneg yn fwy rhydlyd nag y dylen nhw
fod, ond maen nhw'n dal yna yn rhywle!
Pam wnaethoch chi ddewis astudio ieithoedd?
Roeddwn i eisiau astudio ieithoedd ers pan oeddwn yn 8 oed, ar ôl
cwrdd â fy ffrind o'r Almaen am y tro cyntaf pan oeddwn ar wyliau
yn Sbaen. Roeddwn wedi rhyfeddu at ei hiaith ac yn teimlo'n rhwystredig
am na fedrem siarad gyda'n gilydd yn iawn.
Ydych chi wedi cael cyfle i deithio dramor gyda Wales Today?
Dydw i ddim wedi mynd ddim pellach na Llundain hyd yma, ond mae tipyn
o fy nghydweithwyr wedi gweithio ar storïau dramor am bobl o Gymru,
felly rwy'n gobeithio cael cyfle'n fuan!
Ydych chi'n defnyddio ieithoedd yn eich swydd?
Y Gymraeg rwy'n ei defnyddio fwyaf. Er ein bod yn darlledu yn Saesneg
ar Wales Today, rydym yn aml yn cyfweld â siaradwyr Cymraeg ac mae'n
helpu i dorri'r iâ. Rwyf wedi defnyddio Ffrangeg ac Almaeneg hefyd;
yn ddiweddar, bûm yn cyfweld ag Almaenwyr a oedd yn hoffi Dylan
Thomas ac ar ymweliad ag Abertawe. Mae'n sgil ddefnyddiol a dydych chi
byth yn gwybod pryd y byddwch ei hangen.
Ydych chi'n meddwl fod dysgu ieithoedd eraill wedi helpu eich
sgiliau cyfathrebu?
Ydy'n bendant yn fy hanes i. Mae dysgu ieithoedd eraill wedi fy ngwneud
yn fwy ymwybodol o strwythur y Saesneg ac mae hefyd wedi codi fy hyder
wrth i mi gyfarfod â phobl a siarad gyda nhw.
Mae llawer o ohebwyr a newyddiadurwyr fel Huw Edwards a Fiona
Bruce wedi astudio ieithoedd, fel y gwnaethoch chi. Pam ydych chi'n meddwl
fod ieithyddion yn tueddu i wneud newyddiadurwyr a gohebwyr da?
Rwy'n meddwl fod chwilfrydedd naturiol ac elfen gymdeithasol mewn cymeriad
yn gymorth gydag ieithoedd a newyddiaduriaeth. Mae'r ddau yn golygu cwrdd
â phobl a dysgu amdanynt, felly mae hoffi cyfathrebu yn gymorth
enfawr.
Ydy'r ieithoedd wedi bod yn fantais i chi yn eich gyrfa? Os ydynt,
sut?
Ni allaf feddwl iddynt erioed fod yn anfantais, nac y byddant byth. Rwyf
wedi dweud yn barod fod ieithoedd wedi helpu fy sgiliau cyfathrebu a chodi
fy hyder. Maen nhw hefyd wedi helpu fy sgiliau ysgrifennu, sydd, wrth
gwrs, yn beth da mewn newyddiaduriaeth.
A fyddech chi'n cynghori pobl ifanc eraill sydd eisiau mynd i
fyd y cyfryngau i ddysgu ieithoedd?
Byddwn yn bendant yn eu cynghori i ddysgu ieithoedd os ydyn nhw eisiau
gweithio yn y cyfryngau. Mae treulio amser dramor yn ehangu eich meddwl
ac yn eich gwneud yn fwy profiadol ac aeddfed, ac mae hyn i gyd yn gymorth
wrth chwilio am swydd. Nid ydych angen gradd mewn astudiaethau cyfryngau
i weithio yn y cyfryngau ond mae sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu da yn
gymorth mawr.
Ydych chi'n meddwl fod siarad iaith arall wedi cyfoethogi eich bywyd cyfan?
Ydw. Roeddwn yn 'au pair' ym Mharis ac yn yr Almaen am flwyddyn cyn mynd
i'r Brifysgol ac roeddwn yn gynorthwyydd Saesneg mewn ysgol yn yr Almaen
yn ystod trydedd flwyddyn fy ngradd. Mae'r ddau brofiad yma, a'r cyfnod
yn y Brifysgol, wedi ehangu fy meddwl, codi fy hyder a rhoi ffrindiau
i mi am oes. Oni bai fy mod wedi astudio ieithoedd, fyddwn i ddim wedi
cael hanner y profiadau na'r anturiaethau a gefais, nac wedi cyfarfod
â hanner y bobl y cwrddais â hwy. Hefyd, ers pan oeddwn yn
y Brifysgol, rwyf wedi sylweddoli eich bod yn teimlo'n llawer llai diamddiffyn
ac unig wrth deithio os ydych yn gallu siarad ieithoedd heblaw am y Saesneg
ac o ganlyniad, cewch lawer mwy allan o'r teithiau tramor.
Oes gennych chi unrhyw storïau doniol am gamddealltwriaeth
gydag ieithoedd?
Pan gyrhaeddais Yr Almaen fel 'au pair', roeddwn newydd dreulio chwe mis
yn Ffrainc, felly nid oedd fy Almaeneg yn wych. Pan ofynnodd y teulu o
Almaenwyr i mi beth oedd swydd y tad yn Ffrainc, nid oeddwn yn gallu cofio'r
gair am swyddog llynges felly dywedais ei fod yn forwr. Ond, yn hytrach
na dweud Matrose, dywedais Matratze, sy'n golygu matres! Mae'n siwr eu
bod yn meddwl fy mod yn rhyfedd iawn!
Oes 'na rywbeth arall yr hoffech ei ychwanegu?
Dim ond fod dysgu ieithoedd, cyn belled y gallaf weld, yn werthfawr iawn
ac na all fod yn ddim ond mantais. Ni allaf feddwl sut gall fod yn anfantais.
Gallwch weithio am amser hir mewn bywyd ac yn fy achos i, mae'r profiadau
a gefais pan oeddwn yn byw dramor yn dal i fy nghynnal ac mae gen i lawer
o atgofion hapus.
|