|
 |
Enw: Nicole Cooke Dyddiad
geni: Ganwyd Ebrill 13 1983 yn Wick, De Cymru
Galwedigaeth: Enillydd y Giro d'Italia, cyfres
Cwpan y Byd yn 2003, Medal Aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2002, a
4 Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd (2000-2001)
Ieithoedd: Eidaleg |
Ydych chi'n teimlo fod eich gwybodaeth o Eidaleg wedi bod o help
mawr ers ymuno â Saif - Pasta Zara?
Dechreuais ddysgu Eidaleg pan sylweddolais ei bod yn debygol y byddwn yn
ymuno â thîm Eidaleg, ac rwy'n wirioneddol gredu y bu'n hollbwysig
wrth i mi gynefino â'r tîm, a byw yn yr Eidal.
Ydych chi'n meddwl ei fod yn bwysig i ddeall yr iaith yn dda
cyn symud i wlad arall neu ddod yn aelod o dîm tramor?
Mae'n bwysig gwybod sylfeini'r iaith, ond mae bod o gwmpas pobl sy'n siarad
yr iaith yn ei gwneud yn haws i'w dysgu a'i chofio.
Ydych chi'n siarad unrhyw ieithoedd eraill?
Dysgais Ffrangeg yn yr ysgol a gallaf gynnal sgwrs sylfaenol - sy'n ddefnyddiol
gyda chefnogwyr neu drefnwyr rasys.
Pa wledydd ydych chi wedi ymweld â nhw ers i chi ddechrau
cystadlu, a pha rai yw eich ffefrynnau?
O fy nghartref yn yr Eidal, rydym yn mynd i rasys ledled Ewrop, Ffrainc,
Sbaen, Portiwgal, Yr Almaen, Y Swistir, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a hyd
yn oed Rwsia, a hefyd mae rasys ar galendr Gogledd America sy'n rhoi cyfle
i mi fynd i Ganada ac America. Rwy'n caru'r Eidal, ond mae pob gwlad â'i
hatyniadau ei hun. Hefyd, mae yna rannau o Ganada ac America sydd wedi
dwyn fy nghalon.
A fuasech chi'n cynghori seiclwyr neu athletwyr ifainc eraill
i ddysgu iaith dramor?
Yn bendant, os yw seiclwyr yn uchelgeisiol. Does dim llawer o obaith cyflawni
dim ar Lwyfan y Byd os ydych chi'n sefydlu eich hunan ym Mhrydain. Felly,
mae Ffrangeg ac Eidaleg yn ieithoedd pwysig ar gyfer bywyd dyddiol ac
ar gyfer siarad â chystadleuwyr yn ystod digwyddiadau. Mae hefyd
yn cymryd y straen allan o deithio os ydych chi'n gwybod y galwch siarad
â phobl leol i ofyn am gymorth pan ydych chi'n cyrraedd.
Oes gennych chi unrhyw hanesion neu storïau doniol am rwystrau
iaith neu gamddealltwriaethau sydd wedi digwydd yn ystod eich teithiau?
Un camddealltwriaeth anffodus oedd "mollare" y gair Eidaleg
am "ildio". Cyn un ras, roedd cyfarwyddwr y tîm yn dweud
"non mollare" (peidiwch ag ildio) o hyd, ond credais i ei fod
yn dweud i'r gwrthwyneb... Felly, yn ystod dringfa anodd ar ganol y ras
penderfynais eistedd yng nghanol y clwstwr gan gredu fod y rhan anodd
eto i ddod... Fel y gallwch ddychmygu, unwaith yn unig y bu'r rhaid i
mi ddysgu'r wers honno!
A fyddai'ch bywyd yn wahanol pe baech chi ddim yn gallu siarad
Eidaleg?
Fe fyddwn un ai'n byw bywyd llawn straen ac anodd iawn yn yr Eidal, heb
allu dod i adnabod fy nghyd-aelodau yn y tîm a bod yn ddieithryn
ym mheloton y merched, neu byddwn yn gorfod seiclo i dîm gwahanol
yng Nghanada neu'r Iseldiroedd, ond dydy'r rasio ddim cystal yn y gwledydd
hynny a byddai fy seiclo'n dioddef o'r herwydd.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth bobl ifanc sy'n ystyried gollwng
iaith dramor yn yr ysgol?
Peidiwch!! Wyddoch chi ddim beth fyddwch chi'n ei golli ... fe allai olygu
colli'r cyfle i wneud ffrindiau newydd, teithio a phrofiadau gwaith hyd
yn oed
|