Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Ieithyddion Enwog
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 
Llun_Nia Enw:Nia Parry

Swydd: Cyflwynydd Teledu / Ymchwilydd / Tiwtor Cymraeg

Ieithoedd: Cymraeg a Saesneg yn rhugl, tipyn bach o Dwrceg, tipyn mwy o Ffrangeg, Sbaeneg sylfaenol ac iaith arwyddo sylfaenol. (BSL- British sign language)

Dyddiad Geni: 3.08.1975

Pa ieithoedd ydych chi'n eu siarad?
Cymraeg a Saesneg yn rhugl, tipyn bach o Dwrceg, tipyn mwy o Ffrangeg, Sbaeneg sylfaenol ac iaith arwyddo.

Pam benderfynoch chi ddysgu Twrciaidd?
Roeddwn i'n byw yn Istanbul am naw mis yn ystod 1997, felly drwy ddysgu'r iaith roeddwn i'n gallu cyfathrebu efo fy nghymdogion a fy nghyd-weithwyr. Hefyd mae'n bwysig dysgu iaith y wlad rydych chi'n byw ynddi yn fy marn i - mae'n dangos parch ac yn gwneud y profiad o fyw yno yn fwy pleserus.

Oedd hi'n iaith anodd i'w ddysgu?
A dweud y gwir, na, dydy hi ddim yn iaith anodd iawn. Cefais lawer o help gan fy myfyrwyr - roeddwn i'n dysgu Saesneg iddyn nhw ac roedden nhw'n trio dysgu Twrceg i fi!

Oes gennych chi unrhyw stori ddoniol am gamddealltwriaethau iaith a ddigwyddodd tra roeddech chi'n teithio?
Na, yn anffodus, ddim y gallaf eu cofio

Ydy dysgu ieithoedd wedi gwella eich bywyd? Ym mha ffordd?
Ydy, yn sicr. Dw i'n credu'n gryf bod dysgu ieithoedd newydd yn ehangu eich gorwelion, mae'n sicr yn wir amdana i. Mae hefyd wedi golygu bod gennyf fwy o atgofion pleserus o deithio mewn gwledydd e.e. prynu ffrwythau mewn marchnad yn India, ceisio sgwrsio â phobl tu ôl i'r bar yn Thailand, siopa yn y Grand Bazaar yn Istanbul a chwrdd â rhieni fy ffrindiau, ceisio cyfathrebu â phlant mewn ysgol ym Mangladesh a chanu caneuon Bengali efo nhw.

Buasech chi yn argymell i bobl ifanc ddysgu ieithoedd a pham?
Yn sicr- mae'n hwyl, yn cyfoethogi eich bywyd ac mae'n gallu eich helpu yn broffesiynol, ond yn fwy na dim mae'n ehangu eich gorwelion. Ewch amdani- gorau po fwyaf o ieithoedd rydych chi'n gallu eu siarad.

Beth yw'r dull gorau o ddysgu iaith newydd?
Yn fy marn i y ffordd fwya effeithiol ydy byw yn y wlad a cheisio cyfathrebu ac ymarfer efo siaradwyr mamiaith. Os na fedrwch wneud hyn- ewch i ddosbarth iaith sy'n defnyddio'r dull dysgu suggestopedia- mae'n wych!

Yn eich barn chi, ydy hi'n haws i blant ddysgu iaith newydd nag oedolion?
Dw i'n credu bod plant yn poeni llai am wneud camgymeriadau nag oedolion. Diffyg hyder a pharodrwydd i geisio siarad ail-iaith ydy'r rhwystr mwyaf i oedolion ac mae hyn yn gallu eu dal yn ôl.

Ydy'r ffaith eich bod yn ddwyieithog wedi bod o gymorth i chi wrth ddysgu ieithoedd eraill?
Ydy dw i'n credu achos fy mod i'n deall y cysyniad o fethu â chael cyfieithiad llythrennol o bob gair.

Diweddarwyd ar: Ionawr 20 2006
E-bost: llinos.jones@ciltcymru.org.uk