 |
Enw: Lucy Owen
Swydd:
Cyfarwyddwraig Newyddion ITV Cymru
Ieithoedd: Saesneg a Cymraeg |
Pam wnaethoch chi benderfynu dysgu Cymraeg?
Mae’n rhywbeth roeddwn wedi meddwl amdano erioed, ond nid oeddwn wedi
gwneud dim yngly^n â’r peth. Pan ddyweddïais gyda Rhodri,
fy ngw^r, sydd yn siarad Cymraeg, roeddwn yn gwybod y byddem eisiau i’n
plant siarad Cymraeg, ac felly roeddwn i eisiau gallu siarad Cymraeg gyda
nhw hefyd. Hefyd, roeddwn eisiau gwybod beth oedd Rhod yn dweud amdanaf
i pan roeddwn yn ei glywed ar y ffôn!
Ym mhle wnaethoch chi ei ddysgu?
Astudiais y cwrs Wlpan (cywirwch fy Nghymraeg os oes angen!!) yn swyddfeydd
y Cyngor yng Nghaerdydd. Roedd yn awr a hanner yn y bore, am bum niwrnod
yr wythnos.
A wnaethoch chi fwynhau dysgu Cymraeg?
Mwynheais yn fawr. Nid oedd yn hawdd, gan fy mod yn gwneud hyn yn y bore
ac wedyn mynd i’r gwaith, ac wedyn trio gwneud y gwaith cartref
gyda’r nos hefyd, ond mae’n dda iawn pan rydych yn gallu dechrau
deall yr iaith a’i defnyddio.
Ydy eich gallu i siarad Cymraeg yn eich helpu chi yn eich gyrfa
o gwbl?
Mae’n fy helpu yn fawr gydag ynganiad pentrefi a threfi Cymreig.
Buaswn yn siomedig iawn petawn yn ynganu rhywbeth yn anghywir, a helpodd
fy nosbarthiadau Cymraeg i mi gael hyder ‘ar yr awyr’.
Ydy siarad Cymraeg ac ieithoedd eraill yn fantais pan rydych
yn gweithio yn y cyfryngau?
Byddai Cymraeg yn fantais fawr i rywun fyddai’n dechrau allan mewn
darlledu. Mae’n rhoi llawer mwy o gyfleodd i chi weithio ar raglenni
iaith Cymraeg ar gyfer S4C neu Radio Cymru –byddai’n bendant
yn fantais fawr.
Ydych chi’n cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg?
Dywedodd rhywun unwaith wrthyf fi, unwaith rydych yn dod i adnabod rhywun
mewn un iaith, mae’n anodd iawn newid a siarad gyda nhw mewn iaith
arall. Er hyn, nid wyf gyda llawer o hyder i wneud hyn, ond pan rwyf wedi
trio mae pawb wedi bod yn gefnogol a brwdfrydig iawn. Byddwn yn cynghori
rhywun i’w drio. Rydych yn siw^r o wneud camgymeriadau felly peidiwch
â phoeni amdano, mae’n ffordd i ddysgu ac yn fuan, byddwch
yn teimlo yn fwy naturiol wrth ei siarad.
Ydy dysgu iaith wedi ehangu eich bywyd mewn unrhyw ffordd ac
a fyddech chi’n hoffi dysgu iaith arall?
Wel, nid wyf wedi cael gafael ar ddysgu Cymraeg eto! Mae gennyf ffordd
hir i fynd a rwyf angen gweithio llawer arno, felly byddai’n well
i mi beidio trio dysgu iaith arall nes rwyf wedi mynd i’r afael
â’r un yma!
A fyddech chi’n annog pobl ifainc eraill i siarad ieithoedd
a pham?!
Yn bendant byddwn yn annog pobl ifainc i’w drio. Gall fod yn hwyl,
a gall agor llawer o gyfleoedd i chi, felly pam ddim ei drio? Does dim
i’w golli, a phopeth i’w ennill!
|