Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Ieithyddion Enwog
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 
Llun_Gareth Enw: Gareth Llewelyn

Galwedigaeth: Chwaraewr rygbi ar gyfer Cymru a Narbonne, Ffrainc

Ieithoedd: Almaeneg a dysgu Ffrangeg

Pa ieithoedd a ddysgoch chi yn yr ysgol?
Cymraeg ac Almaeneg

Pan oeddech chi yn yr ysgol, oeddech chi'n meddwl y buasech yn trafeilio gymaint, neu darganfod fod ieithoedd yn ddefnyddiol?
Na

Sut mae bywyd yn Ffrainc? Peth yw'r prif wahaniaethau rhwng bywyd yn Narbonne a bywyd yng Nghymru?
Mae'r tywydd yn fwy cynnes, mae amser cinio yn hirach ac mae bywyd yn fwy hamddenol

Sut ydych chi'n ymdopi gyda gwersi Ffrangeg?
Da iawn, rwy'n cael un gwers yr wythnos a rwy'n dysgu llawer gan y chwaraewyr eraill.

Oes gennych chi unrhyw storïau doniol am broblemau a chamddealltwriaethau (problemau cyfathrebu) a all godi dramor?
Dywedodd y bechgyn wrthyf fi i ynganu 'Merci beaucoup' yn wahanol. Wedyn, darganfyddais fy mod yn dweud 'Diolch yn fawr, pen ôl neis!'

A fuasech chi'n awgrymu fod pobl ifanc ym myd chwaraeon yn dysgu iaith dramor? Beth fuasech chi'n ddweud wrth ddisgyblion ysgol sydd yn ystyried gollwng eu iaith dramor yn 14 mlwydd oed?
Nid ydych yn gwybod pa ddrysau a fydd yn cael eu hagor i chi yn y dyfodol.

Ydych chi'n meddwl fod y gallu i siarad rhywfaint o Gymraeg yn gymorth wrth ddysgu iaith arall?
Nid wyf yn siarad llawer o Gymraeg, ond mae cystrawenau y brawddegau yn debyg ac hefyd rhai geiriau.

Beth yw'r peth gorau am fedru gweithio dramor?
Y tywydd

...a'r peth gwaethaf?
Bod i ffwrdd oddi wrth y teulu.

Ydych chi'n adnabod unrhyw chwaraewyr rygbi eraill sydd wedi dysgu iaith dramor?
Mae llawer o chwaraewyr tramor yn Ffrainc yn siarad Ffrangeg ac mae llawer o'r Ffrancwyr yn siarad Saesneg.

Diweddarwyd ar: Ionawr 20 2006
E-bost: llinos.jones@ciltcymru.org.uk