 |
Enw: Dave Jones Swydd:
Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
Ieithoedd: Tipyn o Gantoneg a Ffrangeg
David Jones yw rheolwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd
ar hyn o bryd. Fel chwaraewr, treuliodd rywfaint o amser yng nghlwb
Seiko yn Hong Kong, lle dysgodd e dipyn o Gantoneg. Mae e hefyd
yn siarad peth Ffrangeg. Bu CILT Cymru’n ei holi am ei brofiadau
gydag ieithoedd tramor. |
Beth wnaeth ichi ddysgu Cantoneg?
Wel, doedd gen i fawr o ddewis a dweud y gwir. Ar y cae roedd hi’n
bwysig ‘mod i’n dysgu rhai o’r rhegfeydd yn reit gyflym!
Gyda phêl-droed dyw diffyg iaith arall ddim yn broblem anferth –
mae cyfathrebu’n tueddu i fod yn weledol yn hytrach na geiriol (mae
byrddau tactegau’n hawdd eu deall mewn unrhyw iaith) - ond wedi
dweud hynny, roedd o help mawr i ddysgu sut i gyfarch chwaraewyr eraill
ayb. Felly, fe ddysgais i’r pethau sylfaenol. Pan oedden ni yng
Nghanada yn ddiweddar ar daith Dinas Caerdydd cyn dechrau’r tymor,
(lle chwaraeodd Caerdydd yn erbyn tîm dan 21 oed o Tsieina) fe gwrddais
â rhywun roeddwn i’n arfer ei adnabod yn Hong Kong. Roeddwn
i’n medru siarad ag e ac ateb rhai o’i gwestiynau. Roedd hi’n
anodd, er hynny, imi ddal fy ngafael yn y Gantoneg ar ôl gadael
gan ei bod hi’n iaith mor anodd.
Oeddech chi’n teimlo bod agwedd chwaraewyr tuag atoch chi’n
newid am eich bod wedi gwneud ymdrech i ddysgu eu hiaith nhw?
Heb os. Mae’n eich helpu i ddod yn rhan o gymdeithas.
Wnaethoch chi ddysgu Ffrangeg yn yr ysgol?
Do, ac yna, pan oeddwn i’n rheolwr gyda Southampton, roedd athro’n
arfer dod i’m cartref am ddwy flynedd. Roeddwn i eisiau dysgu’r
iaith er mwyn imi fedru siarad â’r chwaraewyr o Ffrainc oedd
yn y tîm. Dwi’n credu mai peth cwrtais yw ceisio sgwrsio ychydig
bach yn iaith pobl eraill. Er mai yn Saesneg mae’r tactegau ayb
yn cael eu trafod, os oedd y chwaraewyr yn teimlo’n flinedig roedd
angen imi wybod.
Mae gen i asiant yn Ffrainc a dwi’n ymwneud ag e eithaf tipyn.
Pryd bynnag dwi’n mynd ar MSN bydda’ i bob amser yn ei gyfarch
yn Ffrangeg, gan ddechrau gyda “Bonjour, ça va?” achos
dwi ddim eisiau ysgrifennu ato yn Saesneg. Ond bydd e wastad yn ateb yn
Saesneg!
Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod pobl ifanc
yn dysgu ieithoedd?
Ydw. Mae fy merch (12) yn mynd i’r ysgol yn Ne Cymru ar hyn o bryd.
Merch o Japan yw ei ffrind gorau, felly mae hi’n dysgu Japaneg gyda
hi, ac mae hithau’n helpu ei ffrind gyda’i Saesneg. Nawr mae
fy merch wedi’i swyno gan Japan ac mae hi hefyd yn dysgu Ffrangeg
yn yr ysgol. Dwi’n credu’n bendant y dylen nhw fod ar y cwricwlwm.
Mae gadael i ddisgyblion ddewis rhoi’r gorau i astudio ieithoedd
pan maen nhw’n 14 yn hollol wirion. Dwi wir yn credu ei bod hi’n
helpu unrhyw un i siarad ieithoedd eraill ac mi wnaiff eich helpu mewn
swydd.
Ydych chi erioed wedi meddwl rheoli clwb tramor?
Dwi wedi cael cyfle unwaith neu ddwy i fynd i weithio dramor. Pan fyddwch
chi’n mynd dramor bydd gennych chi help cyfieithydd am faint bynnag
bydd angen hynny arnoch chi. Dwi wedi chwarae i reolwr a ddefnyddiodd
gyfieithydd.
Oedd e’n gwneud gwahaniaeth?
Dyw e ddim yn ddelfrydol, ond fel y dywedais i, unwaith rydych chi’n
troi at y bwrdd tactegau, mae pêl-droed yn iaith ryngwladol. Er
hynny, dwi’n credu ei bod hi’n bwysig rhoi anogaeth i chwaraewyr
yn eu hiaith nhw eu hunain.
Mae’n debyg bod yr iaith yn fwy pwysig i chwaraewr y tu allan i’r
clwb? Ydy, dyna lle dwi’n disgwyl i bobl fel David Beckham a Michael
Owen (a ddysgodd Sbaeneg tra yn Real Madrid) ddefnyddio’u Sbaeneg
o ddydd i ddydd – mewn bwytai ac wrth archebu paned o goffi.
Oes ’na unrhyw resymau eraill pam mae ieithoedd yn bwysig yn eich
barn chi? Mae’n bwysig ac mae’n wych gallu sgwrsio â
phobl pan fyddwch chi’n mynd ar wyliau. Pan oedd fy merch yn dysgu
Sbaeneg roedd hi’n gallu archebu pethau mewn llefydd bwyta ac wrth
fynd i gaffi pan oedden ni’n arfer mynd yno ar ein gwyliau. Mae’n
braf cael gwybod beth mae pobl yn ei ddweud amdanoch chi hefyd!
Diolch yn fawr am siarad â ni, Dave, a phob hwyl y tymor yma gyda
Dinas Caerdydd.
|