Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Ieithyddion Enwog
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 
Llun_Clare Enw:Clare Lloyd

Swydd: Cyflwynwraig bore ar Red Dragon FM. Enillydd Gwobr Cyflwynwraig Cymraeg y Flwyddyn 2005.

Ieithoedd: Dysgu Sbaeneg ac astudiodd Ffrangeg ac Almaeneg yn yr ysgol

Dywedoch yn ddiweddar ar y radio eich bod yn dysgu Sbaeneg. Ar ba lefel?
Dwi'n dysgu fy hun gyda Linguaphone ac yn y coleg gyda llyfrau Pasos

Pan wnaethoch chi benderfynu dysgu Sbaeneg?
Mae rhan o fy nheulu yn Sbaeneg. O ganlyniad, rwy'n teimlo dipyn ar ei hôl hi! Rwyf wedi bod gyda diddordeb erioed mewn dysgu iaith arall ac felly mae Sbaeneg yn fwy addas, yn enwedig gan ei fod yr ail iaith sydd yn cael ei siarad fwyaf yn y byd.

Ydych chi'n mwynhau dysgu Sbaeneg?
Rwy wrth fy modd. Mae'n galed ar adegau ond mae'n werth e pan mae popeth yn clicio i'w le!!

Oedd gennych chi unrhyw wybodaeth blaenorol o ddysgu iaith yn yr ysgol?
Astudiais Almaeneg a Ffrangeg ond am ddwy flynedd yn unig.

Fel Cyflwynwraig Radio, rydych yn amlwg yn gallu cyfathrebu'n dda. Ydych chi'n meddwl fod dysgu iaith arall yn gwella eich sgiliau cyfathrebu yn eich iaith eich hunain?
Pwynt da! Mae dysgu Sbaeneg yn brofiad newydd- rwy'n meddwl fod dysgu unrhywbeth newydd yn rhyddhau'r meddwl ac mae wedi rhoi cyfleoedd i mi i gyfathrebu fy mhrofiad ar y radio.

Oes unrhyw un o gyflwynwyr eraill Red Dragon yn siarad iaith arall ac oes rhai yn dysgu Cymraeg?
Nid wyf yn ymwybodol o neb-fodd bynnag, mae cyfleoedd ar gael i ddysgu Cymraeg, sydd yn syniad grêt, gan ei fod yn ein gwneud i chi deimlo'n agosach at y gwrandawyr sydd yn siarad Cymraeg.

A fuasech chi'n argymell dysgu iaith arall i eraill a pham?
Yn bendant. Mae'n sgil gwych i gael y gwybodaeth i fedru cyfathrebu drwy iaith arall. Tipyn o flynyddoedd yn astudio am fywyd o fwynhad!.

Diweddarwyd ar: Ionawr 20 2006
E-bost: llinos.jones@ciltcymru.org.uk