Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Ieithyddion Enwog
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 
Llun_o_Chris Enw:Chris Needs

Swydd: DJ ar Radio Wales, Actor

Ieithoedd: Cymraeg, Saesneg, Sbaeneg, Iseldireg a thipyn o Almaeneg.

Pa ieithoedd ydych chi'n siarad?
Rwy'n siarad Cymraeg, Saesneg, Sbaeneg ac Iseldireg. Rwy'n dysgu Almaeneg.
Ym mha wledydd ydych chi wedi byw?
Rwyf wedi byw yn Sbaen, Gibraltar, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd a Jersi.

Sut oedd y ffaith eich bod wedi dysgu ieithoedd yn fantais i chi pan roeddech chi'n byw dramor?
Roedd yn hollbwysig oherwydd heb ieithoedd, nid oeddwn yn gallu gofyn am frechdan neu ddiod ac yn sicr nid oeddwn yn gallu cael gwaith!

Dywedwch fwy am y swyddi rydych chi wedi eu gwneud dramor
Gweithiais fel chwaraewr piano/canwr yn yr holl wledydd yma. Yn amlwg, roedd angen ieithoedd arnaf i wneud hyn.

P'un yw eich hoff iaith a pham?
Rwy'n meddwl mai fy hoff iaith yw Sbaeneg oherwydd rwy'n teimlo'n gartrefol iawn yna. Rwy'n gweld eisiau Sbaen, yn enwedig y Costa del Sol.

Rydych yn amlwg yn hoffi dysgu iaith newydd. Pa bryd y datblygoch y cariad yma at ieithoedd?
Dysgais hoffi ieithoedd pan roeddwn tua 6 neu 7 mlwydd oed. Dechreuais ddysgu ieithoedd adref ar ben fy hun. Roedd fy ewythr yn gweithio fel cyfieithydd yn y dociau yng Ngwlad Belg ac o ganlyniad, roedd yn gallu siarad llawer o ieithoedd. Pan roedd yn dod i 'n gweld ni, roedd yn arfer dysgu geiriau i mi mewn ieithoedd eraill.

A wnaethoch chi ddysgu ieithoedd yn yr ysgol? Pa rai?
Naddo

Rydych wedi bod yn siarad Cymraeg ers pan oeddech yn blentyn ifanc. Oedd hyn yn ei gwneud yn haws i chi ddysgu ieithoedd eraill?
Yn bendant, roedd siarad Cymraeg wedi fy helpu i ddeall ieithoedd eraill.

Pa fanteision mae siarad ieithoedd wedi ei dod i'ch bywyd?
Mae ieithoedd wedi rhoi cyfleoedd i mi weithio dramor ac oherwydd fy mod wedi gallu siarad ieithoedd y gwledydd hyn, nid oeddwn yn gorfod dibynnu ar rywun i gyfieithu i mi.

Gan eich bod gyda rhaglen ar Radio Wales a hefyd, gan eich bod yn actor, mae rhaid eich bod yn berson hyderus iawn. Ydy ieithoedd wedi rhoi mwy o hyder i chi?
Do, mae ieithoedd wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi gan ei fod yn sgil sydd yn cael llawer o edmygedd ac mae'n sgil sydd yn creu argraff ar bobl!

A fuasech chi'n dweud fod ieithoedd yn fantais ar gyfer gyrfa mewn radio neu ar y teledu?
Buaswn, gan fod ieithoedd wedi rhoi y cyfle i mi gael gwaith mewn radio a theledu dramor a chael swyddi grêt dramor. Daeth y grw^p Il Divo i Radio Wales y diwrnod o'r blaen ac mae nhw wedi cytuno i wneud 'jingles' ar gyfer fy rhaglen i - gan fy mod wedi gofyn yn neis yn Sbaeneg!

Pa neges fuasech chi'n roi i'r bobl ifanc sydd yn ystyried rhoi'r gorau i astudio iaith yn yr ysgol?
Peidiwch! Mae ieithoedd yn allwedd i'r byd ac mae nhw'n ein galluogi i gymysgu gyda phobl o wledydd a diwylliannau eraill!

Beth yw'r peth gorau am ddysgu iaith?
Mae nhw'n cadw fy ymennydd yn fyw! Mae dysgu ieithoedd gwahanol wedi rhoi y teimlad imi fy mod yn cyflawni rhywbeth. Mae nhw wedi fy helpu i ddarganfod diwylliannau newydd - y bwyd, y bobl a'r tywydd!

Diweddarwyd ar: Ionawr 20 2006
E-bost: llinos.jones@ciltcymru.org.uk