Pwynt Bwled Sut i gyrraedd CILT Cymru

Map mawr o swyddfa CILT Cymru, Caerdydd  Map bach o swyddfa CILT Cymru, Caerdydd


Pwynt bwled  Ar y trên

Os ydych yn cyrraedd yr orsaf ganolog o leoliad tu allan i Gaerdydd, mae trenau rheolaidd yn teithio o orsaf Queen Street / Stryd y Frenhines i Fae Caerdydd. Gadewch 30 munud ar gyfer eich taith o'r orsaf ganolog hyd at swyddfeydd CILT Cymru.
Fel arfer, mae trenau i'r Bae yn gadael o blatfform 3 yng ngorsaf 'Queen St' Mae'n cymryd dwy funud i gerdded o'r orsaf yn y Bae hyd at adeilad CILT Cymru, sef 'Cambrian Buildings'
O'r gorsaf tr?n, trowch i'r chwith a cherddwch i lawr West Bute Street a chymerwch y troad cyntaf ar y dde nes cyrraedd Sgwâr Mount Stuart.
Byddwch yn gweld hen eglwys o'r enw 'The Point'. Mae Cambrian Buildings gyferbyn a hwn. Mae CILT Cymru ar y llawr cyntaf.

Nodwch hefyd fod y Bay Xpress, gwasanaeth bws rheolaidd i'r Bae yn stopio yn y safle bws sydd wedi ei leoli tu ôl i'r orsaf ganolog.


Pwynt bwled  Ar y bws


Am wasanaeth cyflym a rheolaidd, gwelwch y manylion yngly^n a'r Bay Xpress (gweler uchod).
Mae bysiau lleol yn teithio i'r Bae o'r prif orsaf fws sydd wedi ei lleoli tu allan i orsaf ganolog Caerdydd. Mae bysiau i'r Bae yn gadael bob 7 munud o'r orsaf. (gwasanaeth rhif 8), Gadewch 30 munud ar gyfer eich taith o'r orsaf ganolog hyd at swyddfeydd CILT Cymru.
Lleolir yr orsaf fws agosaf i CILT Cymru ar Bute Street, sydd gyferbyn a Gorsaf Drên Bae Caerdydd.
Pan gyrhaeddwch, cerddwch tuag at y Bae, cerddwch i lawr West Bute Street a chymerwch y troad cyntaf ar y dde. Cymerwch y troad cyntaf ar y dde ar gyfer Sgwâr Mount Stuart.

Byddwch yn gweld hen eglwys o'r enw 'The Point'. Mae Cambrian Buildings gyferbyn a hwn. Mae CILT Cymru ar y llawr cyntaf.


Pwynt bwled  Yn y car

Gadewch yr M4 ar gyffordd 33 gan ddilyn arwyddion i Fae Caerdydd.
Yn teithio o'r dwyrain, gadewch yr M4 ar gyffordd 29, cymerwch y trydydd cyffordd o'r A48 a dilynwch yr arwyddion i Fae Caerdydd.
Ar gyfer cyfleusterau parcio cyhoeddus yn y Bae, dilynwch arwyddion i Techniquest. Mae maes parcio cyhoeddus ar Ffordd Stuart, sydd gyferbyn a bwyty Harry Ramsden's. O fan hyn, (ar droed), dilynwch yr arwyddion i Sgwâr Mount Stuart. Unwaith cyrhaeddwch y sgwâr, cerddwch at eglwys o'r enw 'The Point'. Mae Cambrian Buildings gyferbyn a fan hyn, a mae CILT Cymru ar y llawr cyntaf.