Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Newyddion
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 

“Croesi Pontydd”- Defnyddio ieithoedd i gefnogi’r trawsnewid o Gyfnod Allweddol 2 i Gyfnod Allweddol 3


Yn ddiweddar, mae ACCAC wedi cyhoeddi arweiniad, sydd yn cefnogi’r pontio o Gyfnod Allweddol 2 i Gyfnod Allweddol 3 gan ddefnyddio ieithoedd.

Erbyn hyn, dylai pob Ysgol Gynradd ac Uwchradd yng Nghymru fod wedi derbyn copi (Ionawr 2006)

Llawer o ddiolch i ysgolion prosiect CILT Cymru a'r rhai sydd ddim yn rhan o'r prosiect a oedd ynghlwm yn rhannu eu profiadau a darparu deunyddiau astudiaeth-achos.

Mae ffocws gryf ar draws ysgolion yng Nghymru ar y modd y gall y disgyblion gael eu cefnogi wrth symud o’r ysgol gynradd i’r uwchradd. Yn draddodiadol, mae ITM wedi cael ei ystyried yn bwnc ‘newydd’ yng Nghyfnod Allweddol 3. Fodd bynnag, i rai ysgolion, mae disgyblion newydd sy’n cyrraedd wedi cael blwyddyn neu fwy o ddysgu ITM yn eu ysgol gynradd erbyn hyn.

Mae “Croesi Pontydd” yn cefnogi cydweithrediad agosach rhwng ysgolion ac yn amlinellu arfer da. Mae’n berthnasol i’r holl ysgolion, os yw ITM yn cael ei ddysgu yn yr ysgol gynradd neu beidio. Ei nod yw helpu’r holl athrawon Cyfnod Allweddol 2 i gefnogi eu disgyblion i symud ymlaen yn hyderus tuag at ddysgu iaith yn yr uwchradd ac i helpu yr holl athrawon ITM yng Nghyfnod Allweddol 3 i adeiladu ar brofiad iaith blaenorol eu disgyblion, beth bynnag fo’r iaith.

Gweithiodd ACCAC yn agos gyda CILT Cymru ar y prosiect ac mae nifer o’r ysgolion peilot ITM yng Nghyfnod Allweddol 2 wedi darparu deunyddiau astudiaeth achos gwych.

Gellir lawrlwytho'r ddogfen yma, fel ffeil pdf (1, 103kb)

Diweddarwyd ar: Chwefror 6 2007
E-bost: carolyn.goodwin@ciltcymru.org.uk