|
 |
Beth yw CILT Cymru? |
Y Ganolfan Genedlaethol ar Ieithoedd (CILT Cymru) yw'r
ganolfan arbenigedd genedlaethol ar addysgu ieithoedd. Sefydlwyd CILT
Cymru yn 2002 fel rhan o rwydwaith CILT, a rhoddwyd swyddogaeth allweddol
iddi yn y gwaith o weithredu 'Ieithoedd Sy'n Cyfrif', Strategaeth
Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Ieithoedd Tramor Modern. Yng
Nghaerdydd y mae swyddfa CILT Cymru.
|
Beth yn union mae CILT Cymru'n ei wneud?
Prif amcanion CILT Cymru yw:-
- hybu mwy o allu cenedlaethol mewn ieithoedd
- cynorthwyo gwaith pawb sy'n ymwneud â dysgu ac addysgu
- ieithoedd ym mhob sector addysgol ac mewn busnes.
|
Pwy sy'n defnyddio CILT Cymru?
Mae gwasanaethau CILT Cymru ar gael i unrhyw un sy'n ymwneud ag addysgu
ieithoedd:
- Athrawon ac athrawon dan hyfforddiant
- Darlithwyr a thiwtoriaid
- Cynghorwyr ac ymgynghorwyr ieithoedd
- Hyfforddwyr athrawon
- Arolygwyr
- Ymchwilwyr a myfyrwyr
- Prifathrawon, rhieni a llywodraethwyr
- Cyflogwyr
- Hyfforddwyr iaith fusnes
- Ymgynghorwyr gyrfaoedd
- Llyfrgellwyr
- Gwasanaethau a chyfleusterau CILT Cymru
- Rhaglen gynhwysfawr
|
| Gwasanaethau a chyfleusterau CILT Cymru
- Rhaglen gynhwysfawr o Ddatblygiad
Proffesiynol Parhaus ar gyfer athrawon yng Nghymru,
ynghyd â mynediad i gyrsiau yn y DU a thramor
- Canolfan
adnoddau i alw ynddi,
yn cynnwys cronfa o ddeunyddiau ym mhob cyfrwng, sy'n cael ei
diweddaru'n gyson
- Gwasanaeth ymholiadau - cysylltwch â ni'n bersonol, un
ai drwy'r post, dros y ffôn neu drwy e-bost - yn Gymraeg
neu yn Saesneg
- Fforymau trafod trwy E-bost, yn cynnwys Fforwm
CILT Cymru
Cyhoeddiadau: nifer eang o deitlau gan ymarferwyr arbenigol ac
ymchwilwyr
- Newyddion
CILT Cymru - bwletin tymhorol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf
am weithgaredd ITM
- Prosiectau ymchwil-weithredol fel prosiect
peilot Cyfnod Allweddol 2 y Cynulliad Cenedlaethol
- Cymorth i ysgolion ac AALl - Cytundeb
CILT Cymru
- Cymorth i adrannau ieithoedd Addysg Uwch mewn partneriaeth â'r
UK Subject Centre for Languages Linguistics and Area Studies
- Ieithoedd
a byd gwaith
- Sgyrsiau 'Ieithoedd a Gyrfaoedd' yn rhad ac am ddim i ddisgyblion
ysgol
|
|