|
 |
Pam rydym angen 'gwneud
y cysylltiad'?
|
Fel yr amlinellir yn 'Ieithoedd Sy'n Cyfrif', strategaeth Llywdoraeth
Cynulliad Cymru ar gyfer ITM, dylai pobl ifainc sydd yn dechrau dysgu
iaith fodern yn 11 mlwydd oed fod yn dda iawn, gan bod y rhan fwyaf ohonynt
yn ddwyieithog, neu wedi bod yn dysgu ail iaith ers eu bod yn 5 mlwydd
oed. O ganlyniad, mae ganddynt sylfaen o ddysgu iaith a dylai eu gwneud
yn fwy derbyngar i drydedd neu bedwaredd iaith.
Fodd bynnag, rydym yn teimlo fod gormod o athrawon Cymraeg, Saeseng ac
ITM mewn ysgolion uwchradd wedi bod yn gweithio ar wahan, ac o ganlyniad,
nid ydynt yn elwa ar y gwaith da sydd yn digwydd yn y tri phwnc o ran
datblygu sgiliau llythrennedd disgyblion, yn ogystal a'r gwaith cynnar
a wnaed yn yr ysgolion cynradd.
Ymdriniodd ACCAC a'r mater hwn yn y ddogfen 'Gwneud y Cysylltiad', a
gyhoeddwyd gyntaf yn 2003. Roedd yn pwysleisio y byddai dull mwy integredig
a thryloyw o addysgu iaith yn fanteisiol i holl ddisgyblion 5-14 (er enghraifft
drwy ddefnyddio'r un derminoleg yn y gwahanol ieithoedd i ddisgrifio'r
un rhannau ymadrodd) a byddai hynny hefyd yn galluogi athrawon i adeiladu
ar yr hyn a ddysgodd eu disgyblion cynt. Yn ogystal, mae'r arweiniad yn
galluogi athrawon i ddod yn ymwybodol o Raglenni Astudio'r Cwricwlwm Cenedlaethol
yn y Gymraeg, Cymraeg Ail Iaith, Saesneg ac ITM, ac o ganlyniad, adnabod
y'r holl debygrwydd rhwng yr holl ieithoedd hyn.
Felly, mae CILT Cymru wedi penderfynu noddi gwaith ymchwil weithredol
ar ddatblygu sgiliau llythrennedd ar draws y cwricwlwm. Mae'r cydweithgaredd
arfaethedig yma gan athrawon ieithoedd ar lefel uwchradd yn helpu i godi
ymwybyddiaeth o'r angen am sgiliau iaith ar draws y cwricwlwm, ac o ganlyniad,
byddai statws ieithoedd yn cael ei godi yn yr ysgolion uwchradd. Mewn
ysgolion cynradd, lle ymdrinnir eisioes a llythrennedd mewn dull ysgol
gyfan, dymunwn weld mwy o gydweithrediad gydag ysgolion uwchradd er mwyn
sicrhau bod disgyblion ifanc sy'n dysgu ieithoedd yn trosglwyddo'n llyfn.
Bydd cyfleoedd ar gael i ysgolion cynradd sydd yn rhan o beilot Cyfnod
Allweddol 2 Llywodraeth Cynulliad Cymru ddatblygu ymhellach strategaethau
sydd yn galluogi dysgwyr i wneud cysylltiadau ac i ddeall yn well sut
mae ieithoedd yn gweithio.
Cliciwch yma i lawrlwytho dogfen ACCAC 'Gwneud
y Cysylltiad'
|