|
Cynhadledd Llythrennedd Triphlyg Cymru Gyfan 2007
I weld a llawrlwytho cyflwyniadau, cliciwch ar yr ysgol neu'r siaradwyr:


| Ysgol
Uwchradd Llanisien (ppt)
Penderfynodd Ysgol Uwchradd Llanisien ganolbwyntio ar ddysgwyr Ffrangeg/Almaeneg
llai galluog. Darganfuodd yr Ysgolion Cynradd oedd yn bwydo a profion
CAT Blwyddyn 7 ym mis Medi grwp o ddisgyblion fel cael anawsterau
llythrennedd ar ddiwedd blwyddyn 6. Derbyniodd rieni wahoddiad i’w
plant gymryd rhan yn y Prosiect Llythrennedd Triphlyg. Gwelhaodd
yr adrannau ITM, Cymraeg a Saesneg eu cysylltiadau a gweithion nhw’n
agos gyda staff SEN a gwirfoddolwyr o’r 6ed dosbarth. Dadansoddwyd
cynlluniau gwaith i amlinellu nodweddion a strategaethau cyffredin.
Canlyniad: Mae wedi bod yn brosiect gwerthfawr iawn. Mae llawer
o ddeunyddiau wedi cael eu creu ac mae’r prosiect wedi gosod
y seiliau ar gyfer dull trawsgwricwlaidd effeithiol. Yn ogystal,
mae wedi amlinellu'r cyfraniad gwerthfawr mae ITM a Chymraeg yn
gallu gwneud wrth gyfeirio at wendidau llythrennedd mewn Saesneg.
Cafwyd ymateb positif iawn gan rieni ac mae staff wedi manteisio
yn fawr o weithio gyda’i gilydd ar amcanion cyffredin.
|

 |
Ysgol David Hughes |
Penderfynodd yr adrannau ITM, Cymraeg a Saesneg greu llyfryn gramadeg
wedi ei godio mewn lliw i’w ddefnyddio ar draws CA3, gan gynnwys
gyda grwpiau Anghenion Arbennig: y syniad oedd y byddai disgyblion
yn gallu cysylltu geiriau’n haws os oedden nhw’n gallu
eu cysylltu gyda lliw/siâp.
Atgyfnerthwyd y llyfryn hwn gan y defnydd o gyflwyniadau bwrdd gwyn,
yn ogystal â phosteri, ac o ganlyniad, mae’n creu amgylchedd
gweledol sy’n atgyfnerthu’r lliwiau penodol y tu fewn
a thu allan i’r ystafell ddosbarth.
Canlyniad
Mae’r prosiect wedi sicrhau bod gennym ni ddull cydadrannol
i helpu i godi safonau cyflawniad i bawb, gan gynnwys bechgyn a
disgyblion AA. Nid yn unig y mae wedi codi ymwybyddiaeth ymysg disgyblion
am batrymau gramadegol, ond mae hefyd wedi meithrin gwerthfawrogiad
o’r manteision o allu siarad ieithoedd gwahanol.
Mae’r llyfryn wedi darparu’r sylfaen ar gyfer y cyfle
i greu amrywiaeth o weithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, gan
gynnwys gweithgareddau gweledol, ymarferol, gwrando, llafar, darllen
ac ysgrifennu, yr ydym ni’n bwriadu datblygu ymhellach eleni.
|
 |
|


|
Y man cychwyn oedd cytuno ar gynnwys gramadegol cynlluniau gwaith
blwyddyn 7 ar draws adrannau ITM, Cymraeg a Saesneg. Hefyd, yn ystod
wythnos gyntaf y prosiect, dewiswyd “ Fi a fy Ardal”,
fel thema, a chynlluniwyd gwersi’n ofalus i dargedu elfennau
ieithyddol cyffredin yn y tair iaith. Hefyd, ymwelodd athrawon ITM
ag ysgolion cynradd i roi blas o’r iaith Ffrangeg i ddisgyblion
blwyddyn 6. Cynhyrchwyd nifer o adnoddau gweledol wedi eu hanimeiddio,
sy’n amlygu strwythurau gramadegol a sillafu ymhellach.
Canlyniad:
Cynhyrchwyd fideo amlieithog gan ddisgyblion Blwyddyn 7, sy’n
siarad am eu hardal, ac fe’i cyflwynwyd i ddisgyblion newydd
ar eu diwrnod cyntaf yn yr ysgol Uwchradd. Hefyd, cafwyd prynhawn
o wersi Ffrangeg, Saesneg a Chymraeg. Pwysleisiwyd y ffaith bod
disgyblion yn dairieithog, a chafodd y disgyblion gyfle i gwblhau
pasbort teithio tairieithog a oedd yn cynnwys manylion amdanyn nhw
eu hunain.
Hefyd, ydych chi erioed wedi bod mewn ystafell sy’n llawn
o bobl gyda sgrin teledu, ac wedi diweddu fyny’n edrych ar
y sgrin? Wel, cafwyd syniad da iawn o ddefnyddio hysbysfyrddau electroneg
yr ysgol i gyflwyno’r adnoddau gweledol wedi’u hanimeiddio
yn y coridorau ac mewn ardaloedd hamdden, yn hytrach na phosteri
yn yr ystafell ddosbarth.
|

Ysgol Uwchradd Caergybi
Mae’r ysgol hon hefyd wedi cynhyrchu llyfryn terminoleg ramadegol
i’w ddefnyddio mewn gwersi Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg ag Almaeneg,
ynghyd â chyfres o ddeunyddiau arddangos sy’n canolbwyntio
ar ddatblygu dealltwriaeth ramadegol disgyblion. Atgyfnerthwyd hyn
gyda gweithgareddau cychwynnol a llawn yn ystod gwersi iaith, gan
ddefnyddio byrddau gwyn bach. Yn y gweithgareddau hyn, roedd disgyblion
yn amlygu rhannau o’r sgwrs mewn brawddegau a thestunau, er
enghraifft, cyfrif y nifer o ansoddeiriau mewn paragraff byr. Mae
cyfathrebu’n effeithiol wedi cael ei amlygu ym Mlwyddyn 8
gyda disgyblion yn perfformio cyflwyniadau ar lafar mewn gwersi
iaith, wrth asesu eu cyfoedion.

|


| Ysgol Botwnnog

Ffocws yr ysgol hon ar gyfer eu prosiect LLythrennedd Triphlyg oedd
codi ymwybyddiaeth ymysg digyblion CA2 a CA3 am sut y gall ieithoedd
“Agor Drysa” iddynt. (Mae’r Adran ITM eisioes
wedi datblygu cysylltiadau gyda’r ysgolion cynradd drwy ddarparu
gwersi Ffrangeg yng CA2).
Cafodd disgyblion Blwyddyn 7 y dasg o ddyfeisio drama fer i gael
y neges hwn drosodd, i ysgrifennu’r sgript a pherfformio’r
ddrama i ddisgyblion Blwyddyn 6 ar daith fawreddog i bob ysgol gynradd
yn y dalgylch. Roedd y gwaith yn ymestyn dros sawl Adran a phwnc,
yn cynnwys Drama ac ABCh. Rhoddodd yr Adrannau Cymraeg, Saesneg
ac ITM sylw arbennig i nodweddion tebyg yn y dair iaith yn ystod
eu gwersi
Canlyniad: Cafodd y ddrama ei berfformio
ym mhob ysgol gynradd yn y dalgylch yn ystod tymor yr haf a cafodd
fideo rhagarweiniol ei gynhyrchu gyda bechgyn Blwyddyn 7 yn trafod
pwysigrwydd ieithoedd a’u argraffiadau o ddysgu iaith. Cafodd
y neges ei ledaenu ar lefel cenedlaethol gyda S4C yn ffilmio a cyfweld
â disgyblion ar gyfer y rhaglen Gymraeg “Ffeil”,
a gafodd ei ddarlledu ar yr 17eg o Orffennaf.
Mae’r disgyblion wedi mwynhau eu hunain ac mae’r neges
bod ieithoedd nid yn unig yn hwyl i ddysgu ond hefyd yn gallu “Agor
Drysa“ i chi wedi ei glywed yn glir.
|

Ysgol
Gynradd Machen (ppt) (Saesneg yn unig)
Edrychodd yr ysgol gynradd hon ar raglenni astudiaeth ar gyfer Saesneg
/ Cymraeg ail iaith a Ffrangeg, a datblygodd ddull cydlynol o drin
themâu dysgu (e.e. y tywydd, dyddiau’r wythnos) fel bod
modd annog plant yn ystod gwersi i dynnu cymariaethau rhwng yr ieithoedd
/ adnabod cytrasau ayb. Roedd methodoleg dysgu iaith yn ffocws hefyd,
a bu’r athro dosbarth ym mlwyddyn 6 a’r athro Ffrangeg
peripatetig yn gwylio’i gilydd yn dysgu, yn dysgu mewn tîm
ac yn rhannu adnoddau dysgu ieithoedd. Hefyd, aethon nhw ati i lunio
rhestr o derminoleg ramadegol gyffredin, yn ogystal â datblygu
arddangosfeydd iaith deirieithog mewn dosbarthiadau ac ardaloedd cyhoeddus
o gwmpas yr ysgol a chynhyrchu cyfres o gemau iaith. Canlyniad
Mae’r arddangosfeydd geirfa teirieithog wedi bod yn llwyddiant
fel arf i atgoffa’r disgyblion ac fel cyfeirbwynt cyson iddyn
nhw. Mae’r ysgol wedi parhau i ehangu’r defnydd o gemau
i godi ymwybyddiaeth o iaith a’r defnydd o adnoddau eraill
i ddatblygu brwdfrydedd y disgyblion a hyrwyddo agwedd gadarnhaol
tuag at ddysgu ieithoedd.

“Roedd chwilio am debygrwydd rhwng geiriau Cymraeg a Ffrangeg
yn hwyl.”
|

| Ysgol
Gyfun Trecelyn (ppt) (Saesneg yn unig)
Penderfynodd Ysgol Gyfun Trecelyn ganolbwyntio ar wella strategaethau
disgyblion ar gyfer sillafu ac atalnodi ac ar ddatblygu sgiliau
darllen. Mae amser wedi cael ei glustnodi yn ystod cyfnodau cofrestru
i ddarllen yn Saesneg / Cymraeg neu Ffrangeg. Prynwyd deunydd darllen
newydd yn Ffrangeg a Chymraeg ar gyfer hyn ac addaswyd taflen gofnodi,
a oedd eisoes yn cael ei defnyddio yn yr Adran Saesneg i gofnodi
llyfrau a ddarllenwyd gan ddisgyblion gan nodi geirfa newydd a barnau,
er mwyn ei defnyddio yn Ffrangeg a Chymraeg. Yn ogystal, datblygodd
yr adrannau iaith siart “Dysgwch eich Gramadeg” i bob
disgybl fel cyfeirbwynt ar gyfer eu gwaith ysgrifenedig ac mae gwersi
iaith wedi ymgorffori gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar
seiniau sillafu yn hytrach na geirfa sy’n seiliedig ar bwnc
yn unig.
Canlyniad:
Trwy gysylltu â chydlynwyr llythrennedd cynradd rydym wedi
cynhyrchu siart o seiniau sillafu a llyfryn llythrennedd triphlyg.
Rydym wedi darganfod bod disgyblion yn gyffredinol yn darllen mwy
a’u bod nhw wedi gwella’u geirfa Saesneg. Maen nhw hefyd
wedi datblygu’u sgiliau geiriadur, wedi dysgu sut i adnabod
cytrasau a chyffelybiaethau mewn 3 iaith ac felly’n mynd ati
i drin testunau yn yr iaith darged â mwy o hyder a brwdfrydedd.
Mae’r ffocws ar seiniau sillafu wedi gwella’n arbennig
hyder disgyblion wrth ddarllen yn uchel. Dyfernir tystysgrifau a
gwobrau bob wythnos i “Ieithydd yr Wythnos” a threfnon
ni hefyd daith Ffrangeg / Cymraeg ar y cyd i Disneyland, Paris yn
wobr.
Know
your Grammar (pdf 64.9kb) (Saesneg yn unig)
|

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Er nad yw’r ysgol hon wedi bod yn rhan o brosiect ymchwil
weithredol CILT Cymru, fel rhan o’u polisi llythrennedd ysgol
gyfan. mae’r adrannau ieithoedd yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
wedi creu “Llyfryn Llythrennedd Triphlyg” i ddisgyblion,
gyda therminoleg gramadeg cyffredin mewn Saesneg, Cymraeg a Ffrangeg
Gellir archebu copïau o lyfryn Cwm Rhymni drwy CILT Cymru,
drwy anfon e-bost at nia.jones@ciltcymru.org.uk
(£3.50 yn cynnwys.P&P) |

|