Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Projectau a Mentrau
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 

Llythrennedd Triphlyg: Gwneud y Cysylltiad

Yn ystod y project ymchwil-weithredol yma er mwyn datblygu sgiliau llythrennedd, mae CILT Cymru wedi bod yn cefnogi ysgolion ar draws Cymru sy’n ymgymryd â gwaith arloesol.
Mae’r gweithgaredd ar y cyd rhwng athrawon ieithoedd ar lefel uwchradd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r angen am sgiliau iaith ar draws y cwricwlwm, ac mae o ganlyniad, yn rhoi hwb i statws ieithoedd o fewn ysgolion uwchradd.
Mewn ysgolion cynradd, ble mae eisoes agwedd ysgol gyfan tuag at lythrennedd, mae cydweithrediad pellach gydag ysgolion uwchradd yn sicrhau bod dysgwyr ieithoedd ifanc yn symud heb broblem i’r ysgol uwchradd. Bydd ysgolion cynradd sydd ynghlwm ym mheilot ITM CA2 LlCC yn cael cyfleoedd i ddatblygu strategaethau sy’n galluogi dysgwyr i wneud cysylltiadau ac ennyn gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae ieithoedd yn gweithio ymhellach.

Daeth y gynhadledd Llythrennedd Triphlyg blynyddol a gynhaliwyd yn Llandrindod Wells ar 22ain Mehefin ac ysgolion noddedig yn ogystal â chynrychiolwyr o’r AALl a chydlynwyr llythrennedd at ei gilydd i rannu a dathlu arfer da yn y maes hwn. I weld cyflwyniadau ysgolion sy’n rhan o’r project, cliciwch yma:

Cafwyd areithiau pwysig gan Toni Schiavone, Cyfarwyddwr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol Cymru, a siaradodd am fentrau cyfredol i ddatblygu llythrennedd ymysg pobl ifanc, sy’n cynnwys “Read a Million Words in Wales”, sy’n boblogaidd iawn. Am fwy o wybodaeth ynglyn â hyn a mentrau eraill yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, ymwelwch â’r wefan yma.

Darparodd Yr Athro Jon Herring, a gafodd ei apwyntio’n ddiweddar fel y Swyddog Ymchwil ar gyfer Canolfan ESRC dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd. Bangor, sesiwn ddiddorol iawn ar ddefnyddio dwyieithrwydd fel adnodd.
Am fwy o wybodaeth ar waith Canolfan ESRC dros Ymchwil, ymwelwch â’r wefan yma.

Er na fydd y project ymchwil weithredol yma’n gymwys mwyach am grant ar wahân gan CILT Cymru, rydym yn gobeithio y byddwch chi’n parhau i ddatblygu strategaethau yn y maes yma ac yn ystyried llwybrau cyllido eraill ble’n addas, fel Cytundeb CILT Cymru, CACC ag NGfl Cymru.

Os ydych yn cynnal gwaith tebyg yn ysgol eich hunain, mae gennym ddiddordeb mewn clywed gennych chi. Os gwelwch yn dda, cysylltwch gyda Nia Gwyn Jones.

Nia Gwyn Jones,
CILT Cymru,
Cambrian Buildings,
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd CF10 5FL

Ffôn: 02920 480137
E-bost: nia.jones@ciltcymru.org.uk

Diweddarwyd ar: Gorffennaf 4 2007
E-bost: nia.jones@ciltcymru.org.uk