|
Llythrennedd Triphlyg: Rhestr o Ysgolion 2006-2007 |
|
| Ysgol |
Sir |
| Ysgol Uwchradd Caergybi |
Ynys Môn |
| Ysgol David Hughes |
Ynys Môn |
| Ysgol Gyfun Llanisien |
Caerdydd |
| Ysgol Machen |
Caerffili |
| Newbridge Comprehensive School |
Caerffili |
| Rhyl High School |
Dinbych |
| Barry Comprehensive School |
Bro Morgannwg |
| Ysgol Gyfun Bro Morgannwg |
Bro Morgannwg |
| Ysgol Botwnnog |
Gwynedd |
Beth fydd ei fudd i'r ysgolion?
- Cefnogaeth ac arweiniad gan Swyddog Prosiect CILT Cymru a fydd yn
cadw mewn cysylltiad rheolaidd gyda'r ysgol/ysgolion a fydd yn cymryd
rhan;
- Rhan mewn prosiect cenedlaethol fawreddog, a ariennir gan y Cynulliad
a manteision sylweddol i'r staff a'r disgyblion a fydd yn rhan ohono;
- Mynediad drwy CILT Cymru at asiantaethau eraill sy'n bartneriaid,
fel ACCAC, ESTYN a Bwrdd yr Iaith Gymraeg;
- Codi statws ieithoedd yn yr ysgolion a'u cymunedau;
- Cysylltiadau gwell gydag ysgolion sy'n bartneriaid (ysgolion cynradd
y dalgylch neu ysgolion uwchradd cysylltiol);
- Gwell trefniadau trosglwyddo o Gyfnod Allweddol 2 i Gyfnod Allweddol
3;
- 2 le am ddim yng nghynhadledd ar faterion llythrennedd a ddarperir
gan CILT Cymru
- Mynediad am ddim at y Portffolio Ieithoedd Ewropeaidd, ynghyd â
chyfle i fod yn rhan o waith datblygu arloesol;
- Sgiliau llythrennedd gwell gan y disgyblion;
- Cydweithrediad trawsgwricwlaidd gwell;
- Grant o £1000 ar gyfer pob ysgol/grwp o ysgolion i'w wario ar
unrhwy beth sydd yn gysylltiedig â'r prosiect;
- Cyfle i gael arian o ffynonellau eraill;
Beth sydd ar gael ar gyfer CILT Cymru?
- Codi statws ieithoedd drwy Gymru, a'u gwneud yn gyfartal a gwyddoniaeth
a thechnoleg;
- Gwybodaeth ehangach am adrannau ieithoedd yng Nghymru a rhwydwaith
ehangach o gysylltiadau;
- Chwalu'r gwahanfuriau rhwng athrawon gwahanol ieithoedd a'i gilydd,
a rhwng y sectorau addysg gynradd ac uwchradd.
|