Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Calendr Digwyddiadau
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 

TERMAU AC AMODAU


1. Fe fydd CILT Cymru yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau i sefydliadau/unigolion yn unol ag unrhyw ofynion a drefnwyd o flaen llaw, ac ar y dyddiadau a’r amseroedd a gytunwyd gyda’r cleient. Os oes rhaid i ni ohirio/ganslo digwyddiad am unrhyw reswm, byddwn ni’n ceisio hysbysu’r holl rai hynny sy’n cymryd rhan o leiaf wythnos cyn y digwyddiad, oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn gwneud hyn yn amhosibl.

2. Mae gan CILT Cymru’r hawl i newid staff, dyddiad neu amser y digwyddiad.

3. Ni chodir ffi am wasanaethau sydd ddim yn cael eu darparu o ganlyniad i anallu CILT Cymru neu ei staff i’w cynnal nhw.

4. Fe fydd staff CILT Cymru yn hapus i ateb eich ymholiadau dros y ffôn, ond ni fydd unrhyw le yn cael ei gadarnhau oni bai bod ffurflen gofrestru ar bapur wedi cael ei derbyn, unai drwy’r post, drwy ffacs neu fel atodiad drwy e-bost.

5. Fe gynghorir cofrestru’n gynnar, gan fod angen rhoi rhybudd o flaenllaw o’r niferoedd sy’n mynychu’r cwrs i sicrhau bod modd cynnal y cwrs ac i osgoi gorfod canslo.

6. Mae angen i’r cleient roi rhybudd o 5 diwrnod gwaith os ydy e/hi am dynnu nôl o ddigwyddiad HMS. Mae rhaid rhoi hyn ar bapur. Sylwer, pan fo pobl yn canslo o fewn llai na 5 diwrnod gwaith, mae gan CILT Cymru'r hawl i godi’r ffi lawn am y digwyddiad.

7. Os na fydd person yn mynychu’r diwrnod hyfforddiant, fe godir y ffi lawn (onibai bod rhybudd wedi ei dderbyn - gweler pwynt 6 uchod).

8. O ran digwyddiadau am ddim, fe fyddwn ni’n codi ffi o £10 ar gyfer pobl sydd ddim yn mynychu ar y diwrnod (methu â dilyn y gweithdrefnau canslo), i dalu am gostau arlwyo a gweinyddu.

9. Fel arfer, mae’r prisiau am ddigwyddiadau datblygiad proffesiynol yn cynnwys y deunyddiau argraffedig fel taflenni sydd eu hangen fel rhan o’r rhaglen weithgareddau.

10. Dylid cyfeirio unrhyw gwynion sydd gan y cleient ynghylch darpariaeth y digwyddiadau HMS at Reolwr Rhaglen Digwyddiadau CILT Cymru.

Polisi Canslo

• Mae angen i’r cleient roi rhybudd o 5 diwrnod gwaith os ydy e/hi am ganslo lle ar gwrs HMS. Mae rhaid rhoi hyn ar bapur. Sylwer, pan fo pobl yn canslo o fewn llai na 5 diwrnod gwaith, mae gan CILT Cymru'r hawl i godi’r ffi lawn am y digwyddiad.
• Os na fydd person yn mynychu ar y diwrnod, fe godir y ffi lawn.
• Mae gan CILT Cymru'r hawl ar y diwrnod i wrthod rhoi deunyddiau argraffedig, fel taflenni, i’r rhai hynny sy’n mynychu cwrs heb gofrestru o flaenllaw. Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i ddarparu’r deunyddiau argraffedig ar ddyddiad arall.
• O ran digwyddiadau am ddim, fe fyddwn ni’n codi ffi o £10 ar gyfer pobl sydd ddim yn mynychu ar y diwrnod (methu â dilyn y gweithdrefnau canslo), i dalu am gostau arlwyo a gweinyddu.

Diweddarwyd ar: Ebrill 8 2009
E-bost: llinos.jones@ciltcymru.org.uk