Dysgu sut i ddysgu yn Nhonypandy
Llongyfarchiadau i adran ITM Coleg Cymunedol Tonypandy, sydd wedi
gweld cynnydd o 16.36% yn nifer eu myfyrwyr. Mae eu prosiect Cytundeb
wedi canolbwyntio ar ‘ddysgu sut i ddysgu’ ac ar ddatblygu
sgiliau dysgu annibynnol disgyblion ar draws Cyfnod Allweddol 3.
Bu disgyblion yn ymchwilio ar y Rhyngrwyd yn Ffrangeg. Rhoddodd
gweithgareddau a oedd yn golygu chwilio am a phroffwydo gwybodaeth
mewn testunau darllen lawer o hwyl ac ysgogiad i ddisgyblion.
Bydd y prosiect yn datblygu yn ystod ei ail flwyddyn trwy osod
y gweithgareddau hyn yn eu cynlluniau gwaith, tra’n gwneud
y gweithgareddau ‘dysgu sut i ddysgu’ yn fwy seiliedig
ar TGCh er mwyn cwrdd â’r galwadau newydd am TGCh yn
y cwricwlwm newydd.
Tryfan yn cael hwyl ar Sgiliau Geiriadur
Roedd adran ieithoedd Ysgol Tryfan yn
awyddus i ddisgyblion fod yn fwy annibynnol ac i deimlo’n
fwy hyderus wrth ddysgu ieithoedd. Prynwyd setiau newydd o eiriaduron
sydd bellach yn eistedd yn barhaol ar ddesgiau disgyblion. Treuliwyd
gwersi cyfan ym mlynyddoedd 7,8,9 a 12 yn datblygu sgiliau geiriadur.
“Mae disgyblion wedi bod wrth eu boddau’n defnyddio’r
geiriaduron ac mae eu sgiliau wedi gwella’n fawr. Erbyn hyn
mae’r rhan fwya’ o ddisgyblion yn deall pryd, sut (a
sut i beidio â) defnyddio geiriadur,” medd Sandrine
Williams, pennaeth ITM. “Dwi’n credu bod blwyddyn 8
yn enwedig wedi elwa. Maen nhw’n dangos mwy o hyder ac maen
nhw’n ysgrifennu darnau hirach gan addasu’r iaith a
ddysgwyd ac ychwanegu ati, ac felly’n dangos creadigrwydd.
Mi fyddan nhw’n mynd ar eu liwt eu hunain i chwilio am eiriau
newydd heb ddibynnu ar yr athro. Mae gan y rhan fwya ohonyn nhw
bellach eu geiriadur eu hunain gartre’. Maen nhw’n dweud
eu bod nhw’n teimlo’n fwy hyderus nawr a’u bod
nhw’n mwynhau gallu gweithio (yn enwedig ysgrifennu) yn fwy
rhydd ac annibynnol.”
Wnaeth y gwaith ddim stopio’n fanna yn Ysgol
Tryfan. Cafodd cynlluniau gwaith eu haddasu i leihau’r
cynnwys ac i ganolbwyntio llawer mwy ar sgiliau, gan gynnwys canolbwyntio
ar gysylltiadau sillafu-sain – gan ddatblygu’r “llygad
sy’n gwrando a’r glust sy’n gweld”. Cafodd
arddangosfeydd eu newid er mwyn helpu gyda sgiliau yn hytrach na
chynnwys. Cynhyrchodd yr adran bosteri bach a gafodd eu gludio ar
fyrddau a oedd yn rhoi cyngor ar sut i wella gwrando, siarad, darllen,
ysgrifennu a dysgu geirfa. Roedd disgyblion yn mwynhau defnyddio’r
bwrdd gwyn rhyngweithiol a byrddau gwyn bach ar gyfer y gweithgareddau
hyn ac mae fel petaen nhw’n gallu dadansoddi’n well
yr hyn maen nhw’n ei ddysgu a sut maen nhw’n dysgu.
Yn ôl Sandrine, mae lleihau’r cynnwys yn “gadael
amser i weithio’n drylwyr ac mae disgyblion ac athrawon fel
ei gilydd yn teimlo’n hapusach. [Mae disgyblion] yn barotach
i geisio arbrofi â’r iaith heb ofni gwneud camgymeriadau.
Cyrhaeddodd mwy o ddisgyblion lefel 7 eleni ar ddiwedd blwyddyn
9.”
Ond nid dyna’r cyfan! Yn ogystal, penderfynodd yr adran ganolbwyntio
ar asesiad ar gyfer dysgu. Mae hwn hefyd wedi cael effaith sylweddol
ar gynnydd y disgyblion ac ar eu cymhelliad. Yn ôl Sandrine:
“Gan ein bod ni’n treulio llai o amser nag o’r
blaen yn asesu disgyblion yn y pedair sgil yn ffurfiol ar ddiwedd
pob modiwl, gwelson ni fod gynnon ni lawer mwy o amser i ddysgu,
ac roedd y disgyblion yn teimlo eu bod nhw ar lai o frys hefyd.
Rydyn ni’n teimlo felly ein bod ni wedi gweithio’n well
eleni a bod y disgyblion wedi elwa o’r newidiadau hyn.
“Mae asesiad gan gyd-ddisgyblion wedi bod yn boblogaidd iawn.
Mae disgyblion wedi ymgymryd â’r cyfrifoldeb o ddifri
ac maen nhw wedi elwa’n bersonol yn sgîl yr holl adborth
unigol. Dywedodd disgyblion blwyddyn 8 a blwyddyn 9 eu bod nhw’n
teimlo dan lai o bwysau eleni ynglyn â chael eu hasesu a’u
bod nhw’n ei weld o’n fwy fel ffordd o ddeall ble maen
nhw’n sefyll a sut i wella. Mae’r byrddau gwyn unigol
wedi bod yn arfau ardderchog i leihau’r pwysau a darparu gwybodaeth
uniongyrchol.”
Mae’r adran wedi gweld buddion cyflym am eu holl waith caled,
gyda niferoedd yn Ysgol Tryfan yn codi
6.57% i 31.57% o’r garfan ar gyfer
2008-9. Wrth i’r prosiect barhau i ddatblygu rydym yn ffyddiog
y bydd cymhelliad, cyrhaeddiad a niferoedd yn dal i fod ar i fyny,
felly llongyfarchiadau anferthol i Sandrine a’i thîm! |