|
Newyddion Cytundeb CILT Cymru a'r Diweddaraf
am y Cytundeb |
|
Croeso i'r dudalen diweddariad ar wefan CILT Cymru ar
gyfer trosglwyddo gwybodaeth a syniadau am brosiectau Cytundeb CILT Cymru.
Os hoffech gael gwybodaeth am y Cytundeb, cliciwch yma
Mae llwyddiant y Cytundeb yn parhau
Cyn belled, mae adroddiadau o brosiect Cytundeb 2005-6 yn galonogol
ac yn awgrymu bod y prosiect yn profi llwyddiant. Mae 77.78%
o ysgolion yn adrodd bod niferoedd yn eu hysgol wedi codi yn CA4 ar
gyfer 2006-7. Llongyfarchiadau i’r holl adrannau ITM hynny mewn
ysgolion partner y Cytundeb sy’n gweld ffrwyth eu gwaith caled.
|
Partneriaeth gyda Chastell-nedd Port Talbot
Dechreuodd y bartneriaeth gyda Chastell-nedd Port Talbot yn llwyddiannus
y tymor diwethaf, gyda 5 ysgol uwchradd yn derbyn ymweliadau ymgynghorol
gan Kristina Hedges, Ymgynghorydd Dysgu Iaith yn CILT Cymru. Ar
ddiwedd y tymor, drwy gefnogaeth gan CILT Cymru, daeth yr holl athrawon
ITM yn y Sir at ei gilydd am ddiwrnod, ble trafodwyd datblygiad
drwy lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol, TGCH a sut i ysgogi
blwyddyn 9, ynghyd â sesiwn yn rhoi sylw i ddatblygiadau newydd
ym maes dysgu ieithoedd, a syniadau ar gyfer gweithgareddau cychwynnol
a rhai ar gyfer y dosbarth cyfan a gweithgareddau i ddatblygu sgiliau
meddwl disgyblion.
Yn ôl y gwerthusiadau gwych, roedd athrawon yn gwerthfawrogi’r
cyfle i gwrdd â chydweithwyr o ysgolion eraill a rhannu
profiadau gyda nhw.
Rydym yn gobeithio y bydd y bartneriaeth gyda Chastell-nedd Port
Talbot yn parhau i fynd o nerth i nerth yn ystod y misoedd nesaf.
|

Sylw i Ysgolion Cytundeb yn TES Teacher
Cafodd y prosiect Cytundeb ei gynnwys mewn erthygl am strategaeth
ieithoedd cenedlaethol Cymru yn TES Teacher ar 12fed Mai 2006.
Soniwyd am Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd Y Coed Duon,
Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Illtyd, ac Ysgol Uwchradd Eirias,
gyda cherdd Barbara Smith, disgybl o Cathays High School (gweler
isod) yn derbyn llawer o ganmoliaeth.
Si j’étais...
Si j’étais un cheval,
Je serais un pur sang
Je serais gracieux dans son enjambée
Amical de temperament et adorable à tout temps.
Si j’étais un champ
Je serais grand et vaste
Si j’étais un festival
Je serais joyeux et étincelant
Si j’étais un mois
Je serais le mois de mars gracieux
Et frais
Si j’étais un temps
Je serais une tornade sauvage et folle.
Barbara Smith (year 9)
|
Mae’n wych gweld y prosiect yn ennill cydnabyddiaeth am
y gwaith caled rydych chi yn ei wneud i godi statws ITM yng Nghymru
ac mae’n braf meddwl ein bod yn gallu cynnig atebion i ysgolion
yn Lloegr, sydd erbyn hyn yn wynebu anawsterau recriwtio tebyg,
wrth i ITM ddod yn ‘hawl’ yn hytrach na’r pwnc
gorfodol yng nghyfnod allweddol 4. |
Diweddariadau ar y wefan
Os hoffech weld eich ysgol ar y wefan, anfonwch luniau digidol neu
enghreifftiau o waith eich prosiect. |
Kristina Hedges
Ymgynghorwraig Dysgu Iaith
kristina.hedges@ciltcymru.org.uk
Ffôn: 029 2043 6354
|