Logo Cilt Cymru Baner Cilt Cymru yn Cynnys fflagiau Sbaen Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Chymru cliciwch yma ar gyfer gwefan fersiwn saesnegcliciwch yma i gofrestru ar gyfer y fforwm arleinDelwedd Lleni
  Projectau a Mentrau
cliciwch yma am y tudalen cartref
cliciwch yma am ein tudalen newyddion
cliciwch yma am wybodaeth am cilt cymru
cliciwch yma am wybodaeth am L N Cymru
cliciwch yma am newyddion prosiectau a mentrau
cliciwch yma am galendr digwyddiadau
cliciwch yma am gyhoeddiadau cyfredol
cliciwch yma i gysylltu â ni
cliciwch yma am gyfleodd
cliciwch yma am gysylltiadau i wefannau cysylltiedig
Cliciwch yma am brofeil Ieithydd Enwog
Click here for Higher Education
Logo Cwlwm Cymru
 

Cytundeb CILT Cymru: CILT Cymru 'ach Ysgol

Yn 2005, dim ond 31% o bobl ifanc 16 oed a astudiodd iaith dramor fodern hyd at lefel TGAU. Dengys hyn gwymp brawychus o’r hyn a gafwyd yn 1994, sef 55%. Eto, mewn economi sy’n tyfu’n fwyfwy byd-eang bellach, mae sgiliau iaith yn dod yn fwyfwy manteisiol ar gyfer cyflogaeth a theithio.

Prif bwyslais gwaith CILT Cymru ers iddi gychwyn yn 2002 yw ceisio gwrthdroi’r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n astudio ITM adeg cyfnod allweddol 4 ac yn uwch.

I’r diben hwn, sefydlwyd Cytundeb CILT Cymru, perthynas arbennig ag ysgolion, sy’n gweithio mewn partneriaeth â CILT Cymru ar brosiectau i wella safonau a chynyddu niferoedd sy’n astudio ITM.


Beth yw'r Cytundeb

Partneriaeth unigryw rhwng ysgol a CILT Cymru. Mae pob prosiect Cytundeb yn bersonol i’r ysgolion unigol, ac mae gan ysgolion sy’n perthyn iddo fynediad breintiedig i gefnogaeth a chyngor gan Ymgynghorwyr Dysgu Iaith CILT Cymru.

Pa fanteision sydd ar gael i'r ysgolion?

  • Cefnogaeth ac arweiniad gan ymgynghorwyr dysgu iaith CILT Cymru sy’n cadw mewn cysylltiad rheolaidd ag ysgolion cyfrannog;
  • Mynediad breintiedig i ddigwyddiadau a chynadleddau a gwerthfawrogiad cryfach ohonynt (gyda diwrnodau neu ymweliadau dilynol posib ar ôl digwyddiadau);
  • Mynediad drwy CILT Cymru i asiantaethau perthynol eraill, fel Rhwydwaith Ieithoedd Cymru, y Cyngor Prydeinig ayb;
  • Codi statws Ieithoedd Tramor Modern o fewn yr ysgol a’r gymuned;
  • Grant o £500 i bob ysgol ar gyfer ei wario ar unrhyw beth sy’n ymwneud â’r prosiect;
  • Cyfle i gymryd rhan mewn prosiect cenedlaethol mawreddog gyda manteision sylweddol i staff a disgyblion sy’n rhan ohono


Pa fanteision sydd ar gael i CILT Cymru?

  • Cynnydd yn nifer y rhai sy’n astudio ITM adeg CA4 a’r cyfle i ledaenu’r arfer da sydd ynghlwm â’r prosiectau gweithredu
  • Gwybodaeth ehangach o adrannau Ieithoedd Tramor Modern yng Nghymru a rhwydwaith ehangach o gysylltiadau
  • Codi statws Ieithoedd Tramor Modern ledled Cymru

Y meini prawf ar gyfer dethol ysgolion

  • Targedau clir i wella perfformiad disgyblion adeg CA3 ac i gynyddu niferoedd adeg CA4, a syniad clir ynghylch prosiect gweithredu i gyflawn hyn. Cynhelir sesiwn cynllunio, yn cynnwys yr ymgeisydd a staff CILT Cymru, yn ystod y cyfnod ymgeisio;
  • Cefnogaeth y pennaeth a’r llywodraethwyr; rhaid i hyn gael ei nodi’n glir a’i arwyddo ar y ffurflen gais;
  • Tystiolaeth o gydweithio fel tîm/adran;
  • Sylw at faterion cyfleoedd cyfartal, megis lefel cyrhaeddiad bechgyn;
  • Darparu cyfeiriad e-bost i’r adran;
  • Ymrwymiad i drafod ag ymgynghorydd gyrfaoedd yr ysgol.

Sut allaf wneud cais i ddod yn rhan o'r Cytundeb?

1. Cwblhewch ffurflen gais, (ffeil pdf 73kb) gan roi manylion ynghylch eich prosiect arfaethedig
2. Sicrhewch fod y prifathro wedi cymeradwyo ac arwyddo’r cais
3. Anfonwch eich ffurflen gais at:
Kristina Hedges
CILT Cymru
Cambrian Buildings
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd CF10 5FL

Cysylltiadau:

Kristina Hedges
Ymgynghorydd Dysgu Iaith (De Cymru)
e-bost: kristina.hedges@ciltcymru.org.uk

Ciara Brennan
Ymgynghorydd Dysgu Iaith (Gogledd Cymru)
e-bost: ciara.brennan@ciltcymru.org.uk

Diweddarwyd ar: Medi 4 2007
E-bost: llinos.jones@ciltcymru.org.uk